Wedi ffenestr ryngwladol braidd yn siomedig, yn ôl gyda’u clybiau yr oedd chwaraewyr Cymru’r penwythnos hwn, gyda chwta fis i greu argraff cyn y gemau rhyngwladol nesaf.

 

*

 

Uwch Gynghrair Lloegr

Ni wnaeth yr un Cymro ddechrau gêm i’w glwb yn yr Uwch Gynghrair dros y penwythnos. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Danny Ward i Gaerlŷr ddydd Sadwrn ac nid oedd Fin Stevens na Neco Williams yng ngharfanau Brentford a Lerpwl.

Fe wnaeth ambell un ymddangos oddi ar y fainc serch hynny gan gynnwys Ben Davies a Joe Rodon yng ngêm Tottenham Hotspur erbyn Crystal Palace ddydd Sadwrn. Er, efallai y byddai’n well gan y ddau fod wedi methu’r gêm yn gyfan gwbl wedi iddynt golli o dair gôl i ddim!

Daeth Rodon i’r cae fel eilydd cynnar oherwydd anaf i Eric Dier ac ymunodd Davis ag ef yn yr amddiffyn ar gyfer yr hanner awr olaf. Yn yr hanner awr hwnnw y daeth goliau Palace i gyd, gyda Davies yn ildio’r gic o’r smotyn ar gyfer y gyntaf a Rodon yn colli ei ddyn ar gyfer y drydedd.

Colli o dair gôl i ddim a fu hanes Tyler Roberts a Dan James wedi iddynt ddod i’r cae fel eilyddion i Leeds yn erbyn Lerpwl ddydd Sul hefyd; Roberts y camu ar y maes wedi’r egwyl a James yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf dros ei glwb newydd hanner ffordd trwy’r ail hanner.

Daniel James
Daniel James

Nos Lun y mae tîm Burnley Wayne Hennnessey a Connor Roberts yn teithio i Barc Goodison i wynebu Everton.

 

*

 

Y Bencampwriaeth

Rubin Colwill a oedd arwr Caerdydd ddydd Sul wrth iddynt daro nôl i drechu Nottingham Forest o ddwy gôl i un. Daeth i’r cae fel eilydd yn lle Cymro ifanc arall, Sam Bowen, toc cyn yr awr gyda’i dîm gôl i ddim ar ei hôl hi cyn ennill y gêm gyda’i ddwy gôl gyntaf dros y clwb.

Chwaraeodd dau Gymro arall eu rhan yn y goliau hynny, y gyntaf yn deillio o groesiad Will Vaulks a pheniad Kieffer Moore a’r ail yn ergyd wych wedi rhagor o waith creu gan Moore. Yn dilyn blynyddoedd maith o ddatblygu ychydig iawn o dalent ar gyfer y tîm cenedlaethol y mae Caerdydd wedi troi’n dipyn o feithrinfa yn ddiweddar. Yn ogystal â Bowen a Colwill, fe chwaraeodd dau arall ddydd Sul, Mark Harris yn dechrau a Kieron Evans yn dod i’r cae yn ei le ar gyfer y munudau olaf. Chwaraeodd Brennan Johnson y gêm gyfan i Forest.

Rubin Colwill

Gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn Hull a gafodd Abertawe ond prin iawn a oedd y diddordeb Cymreig yn y gêm hon. Dechreuodd Liam Cullen a Ben Cabango ar y fainc, gyda Cabango yn dod oddi arni am y pum munud olaf. Cafodd Matthew Smith ychydig mwy o funudau i Hull, yn dod i’r cae fel eilydd toc wedi’r awr.

Nid oedd Harry Wilson wedi gwella mewn pryd o’r gyfergyd y dioddefodd yn erbyn Estonia i fod yn rhan o garfan Fulham yn erbyn Blackpool ddydd Sadwrn. Ond roedd hi’n ddiwrnod da iawn i Chris Maxwell yn y gôl i’r Tangarines, yn cadw llechen lân rhwng y pyst wrth i’w dîm ennill o gôl i ddim.

Daeth perfformiad y penwythnos yn Bramall Lane wrth i Sheffield United daro chwech heibio i Peterborough gyda Rhys Norrington-Davies yn chwarae’r 90 munud cyfan i’r Blades. Yr unig newyddion da i gôl-geidwad Peterborough, David Cornell, oedd y ffaith mai ar y fainc yr oedd ef ac nid ar y cae. Efallai y bydd hynny’n newid ar gyfer y gêm nesaf!

Ni wnaeth capten Stoke, Joe Allen, ddechrau’r gêm yn erbyn Huddersfield ddydd Sadwrn ond daeth oddi ar y fainc hanner ffordd trwy’r ail hanner wrth iddynt ennill o ddwy gôl i un. Roedd Adam Davies a Morgan Fox ar y fainc hefyd ond nid oedd James Chester yn y garfan. Chwaraeodd Chwaraewr y Mis y Bencampwriaeth mis Awst, Sobra Thomas, y gêm gyfan i’r gwrthwynebwyr.

Er iddo fethu gemau diweddar Cymru gydag anaf, roedd David Brooks yn ffit i ddechrau buddugoliaeth Bournemouth o dair gôl i ddim yn erbyn Barnsley. Ar y fainc yr oedd Chris Mepham i’r Cherries ac er i Ben Williams ddechrau i Barnsley, bu’n rhaid iddo adael y cae gydag anaf yn yr hanner cyntaf.

Parhau a wnaeth adfywiad diweddar Andy King wrth iddi orffen yn ddi sgôr rhwng Bristol City a Preston yn Ashton Gate ddydd Sadwrn. Mae’r chwaraewr canol cae wedi bod yn chwarae’n rheolaidd ers ymuno â’r tîm o Fryste dros yr haf, ei rediad gorau o chwarae ers sawl tymor. Chwaraeodd Andrew Hughes i’r ymwelwyr ond nid oedd Ched Evans yn y garfan.

Dechreuodd Tom Lawrence golled Derby o ddwy gôl i ddim ym Mirmingham nos Wener ac eilydd hwyr a oedd George Thomas yng ngêm gyfartal dair gôl yr un QPR yn Reading ddydd Sadwrn. Ar y fainc yr oedd Tom Locker a Tom Bradshaw yng ngemau Luton a Millwall.

 

*

 

Cynghreiriau is

Cafodd Cymru B, neu Bolton Wanderers fel maent yn cael eu galw, fuddugoliaeth swmpus yn Ipswich yn yr Adran Gyntaf ddydd Sadwrn. Pum gôl i ddwy a oedd hi, gyda Gethin Jones yn creu’r drydedd a Josh Sheehan yn rhwydo’r bedwaredd. Chwaraeodd Jordan Williams a Lloyd Isgrove hefyd ond nid oedd Declan John yn y garfan. Prynhawn i’w anghofio a oedd hi felly i Wes Burns a Lee Evans yn nhîm Ipswich.

Chwaraewr a aeth i’r cyfeiriad arall pan symudodd Evans o Wigan i Ipswich dros yr haf a oedd Gwion Edwards ac fe ymddangosodd yntau oddi ar y fainc wrth i’w dîm newydd ennill o ddwy gôl i un yn erbyn Doncaster.

Roedd buddugoliaeth fawr i Lincoln yng Nghaergrawnt hefyd, pum gôl i un i dîm Regan Poole. Roedd James Wilson, Ryan Broom a Luke Jephcott yn nhîm Plymouth wrth iddynt ennill o dair i ddim yn erbyn Sheffield Wednesday.

Colli a wnaeth Portsmouth wrth i Joe Morrell chwarae gêm lawn yng nghanol cae yn erbyn MK Dons. Roedd Kieron Freeman yn y tîm hefyd a daeth Ellis Harrison oddi ar y fainc.

Joe Morrell

Di sgôr a oedd hi rhwng Wycombe a Rhydychen. Chwaraeodd Joe Jacobson a Sam Vokes i’r Wanderers ond ar y fainc yr oedd y golwr ifanc, Adam Przybek.

Yn yr Ail Adran fe chwaraeodd Jonny Williams wrth i Swindon golli o ddwy gôl i un yn erbyn Port Vale a chadwodd Tom King lechen lân wrth i Salford drechu Bradford o gôl i ddim. Chwaraeodd Liam Sheppard yn yr amddiffyn i’r tîm o Fanceinion hefyd.

 

*

 

Yr Alban a thu hwnt

Nid oedd llawer o gyffro yn Uwch Gynghrair yr Alban dros y penwythnos, gyda llu o gemau’n gorffen yn ddi sgôr. Dyna a oedd hi wrth i Dundee United deithio i St Mirren ddydd Sadwrn gyda Dylan Levitt yn chwarae’r ail hanner i’r ymwelwyr. Dyna’r sgôr yng ngêm darbi Caeredin ddydd Sul hefyd ond fe wnaeth ymosodwr Hearts, Ben Woodburn, greu digon o argraff i gael ei enwi’n seren y gêm. Nid oedd Christian Doidge yng ngharfan Hibs.

Ben Woodburn

Colli a fu hanes Aberdeen yn erbyn Motherwell gyda Marley Watkins yn dechrau am y tro cyntaf ers ail ymuno â’r clwb. Colli a wnaeth Alex Samuel yn erbyn Celtic hefyd, mae cyn flaenwr Aberystwyth bellach gyda Ross County.

Ildiodd Owain Fôn Williams dair gwaith wrth i Dunfermline golli o dair i un yn Ayr ym Mhencampwriaeth yr Alban.

Bydd yn rhaid aros ychydig eto i weld Ethan Ampadu yng nghit swanc Venezia, nid oedd y chwaraewr sydd ar fenthyg o Chelsea yn y garfan wrth iddynt ennill yn Empoli ddydd Sadwrn. Yn aros yn yr Eidal, dychwelodd Aaron “Lasarus” Ramsey i dîm Juventus wedi i anaf ei gadw allan o garfan Cymru. Chwaraeodd y deunaw munud olaf wrth i’w dîm golli o ddwy i un yn Napoli.

Os yw anafiadau Rambo yn tueddu i ddigwydd ar adeg gemau rhyngwladol, mae Gareth Bale yn gwbl groes. Ar ôl ymddangos yn nhair gêm Cymru yr wythnos diwethaf, roedd allan o gêm Real Madrid nos Sul oherwydd anaf.

Chwaraeodd James Lawrence y gêm gyfan wrth i St. Pauli golli o gôl i ddim yn erbyn Hannover 96 yn ail adran yr Almaen. Ac yng Ngwlad Belg, daeth Rabbi Matondo oddi ar y fainc yn gynnar yn yr ail hanner i Cercle Brugge wrth iddynt hwy ’ware gêm yn erbyn Waregem ac ennill o bedair gôl i ddwy.