Mae Craig Bellamy, cyn-gapten tîm pêl-droed Cymru, wedi gadael ei swydd yn is-hyfforddwr Anderlecht yng Ngwlad Belg am resymau iechyd.

Mae’r cyn-ymosodwr 42 oed wedi gwneud “penderfyniad anodd iawn ond cwbl angenrheidiol ynghylch ei iechyd”, meddai’r clwb wrth gyhoeddi ei ymadawiad.

Fe fu’r aelod o dîm hyfforddi Vincent Kompany yn agored yn y gorffennol am ei frwydr yn erbyn iselder a phroblemau iechyd meddwl.

Cafodd ei benodi’n hyfforddwr tîm dan 21 Anderlecht yn 2019, ond mae e wedi ffarwelio â’r clwb ar ôl eu buddugoliaeth o 7-2 dros Mechelen dros y penwythnos.

Teyrnged

Wrth dalu teyrnged i Craig Bellamy, dywedodd Peter Verbeke, cyfarwyddwr chwaraeon Anderlecht fod “yr egni enfawr mae Craig wedi’i roi i ni i gyd yn amhrisiadwy”.

“Mae hi bellach yn rhesymegol ein bod ni’n rhoi’r holl amser i orffwys sydd ei angen arno.

“Mae’r clwb cyfan yn sefyll yn gadarn y tu ôl iddo yn y cyfnod anodd hwn.”