Roedd siom i Gymru yng Nghwpan Dartiau’r Byd dros y penwythnos, wrth i Gerwyn Price a Jonny Clayton golli yn y rownd gyn-derfynol.

Roedden nhw’n ceisio amddiffyn teitl Cymru, ond colli o 2-1 yn erbyn yr Alban, y pencampwyr yn y pen draw, oedd eu hanes y tro hwn yn yr Almaen.

Collodd Price o 4-2 yn erbyn John Henderson yn ei gêm senglau, cyn i Jonny Clayton guro Peter Wright o 4-2 fel bod yr ornest yn ddibynnol ar y dyblau.

Ond yr Albanwyr aeth â hi o 4-3 er mwyn ennill yr ornest o 2-1 a chael herio Mensur Suljovic a Rowby-John Rodriguez o Awstria yn y rownd derfynol, gan ennill o 3-1.

Roedd Cymru eisoes wedi curo Awstralia yn y rownd gyn-derfynol, gyda Price yn trechu Simon Whitlock o 4-1 a Clayton yn curo Damon Heta o 4-3.