Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r cyn-chwaraewr rygbi Owain Williams, sydd wedi marw’n 56 oed yn dilyn brwydr â chanser.

Chwaraeodd y blaenasgellwr 221 o weithiau i Gaerdydd, gan ennill un cap dros Gymru yn erbyn Namibia yn 1990.

Roedd e’n aelod o dîm dan 18 Cymru enillodd y Gamp Lawn yn 1983.

Treuliodd e bedwar tymor gyda Chrwydriaid Morgannwg ar ôl treulio blwyddyn yn Awstralia yn chwarae i Wests yn Brisbane a Queensland.

Chwaraeodd e i Ben-y-bont am bedair blynedd ar ôl dychwelyd i Gymru, gan ennill ei unig gap rhyngwladol ar daith haf, er y bu’n gapten ar dîm saith bob ochr Cymru.

Ymunodd e â Chaerdydd yn 1992, ac roedd e’n aelod o’r tîm chwaraeodd yn rownd derfynol Cwpan Heineken yn erbyn Toulouse yn 1996, y tro cyntaf i’r gystadleuaeth gael ei chynnal.

Chwaraeodd e yn y gêm olaf yn yr hen Stadiwm Genedlaethol, wrth i Gaerdydd guro Abertawe yn rownd derfynol Cwpan Cymru.

Bu farw ei frawd Gareth yn 63 oed yn 2018, ac yntau hefyd yn dipyn o chwaraewr.

Yn 2001, cafodd Owain Williams driniaeth i dynnu ei lygad ac fe aeth yn ei flaen yn y blynyddoedd wedyn i gael triniaeth am ganser.

Mae ei feibion Teddy a Henri hefyd yn chwaraewyr rygbi proffesiynol.

Teyrngedau

Dywedodd Jonathan Davies, y sylwebydd a chyn-faswr Cymru a Chaerdydd, fod ei farwolaeth yn “newyddion trasig” a’i fod e “ond wedi cael ei werthfawrogi gan y bois oedd wedi chwarae gyda fe”.

Ychwanegodd Emyr Lewis ei fod yn “gymeriad go iawn ar y cae ac oddi arno ac yn chwaraewr rhagorol”.