Mae un o gyfarwyddwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam yn dweud bod “pawb yn wirioneddol gyffrous am Wrecsam yn ymuno â FIFA 22”.

Mae’r clwb bellach yn rhan o gêm FIFA ’22 y flwyddyn hon, ar ôl cael ei gynnwys fel rhan o ranbarth o’r enw ‘Gweddill y Byd’.

Daeth cadarnhad yr wythnos ddiwethaf y bydd y clwb yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn y gêm ochr yn ochr â thimau megis Ferencvárosi TC o Hwngari, a Hajduk Split o Croatia.

Bydd y bartneriaeth hefyd yn gweld EA Sport yn cefnogi gwaith Clwb Pêl-droed Wrecsam oddi ar y cae, yn y gymuned leol drwy fenter gyda Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Bydd y gêm ar gael i’w phrynu yn ddiweddarach y mis hwn.

Mae ‘Gweddill y Byd’ yn cynnwys ambell glwb nad ydyn nhw wedi’u cynnwys ymhlith y prif gynghreiriau eraill, megis Uwch Gynghrair Lloegr a’r Bundesliga.

O ganlyniad i hyn, mae’r perchnogion Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi pwysleisio mewn fideo nad ydi Cymru yn rhan o Loegr.

“Mae ein tymor llawn cyntaf fel perchnogion Wrecsam wedi dechrau, ond dyw llawer o bobl dal ddim yn gwybod ble mae Cymru,” meddai Rob McElhenney.

“Ti’n gywir Rob. Felly rydyn ni yma gyda gwers ddaearyddiaeth,” meddai Ryan Reynolds.

“Mae llawer o bobol yn meddwl bod Cymru yn Lloegr. Dydi o ddim Ryan. Mae mewn rhanbarth a elwir yn Gweddill y Byd,” meddai Rob McElhenney.

“Mae Gweddill y Byd yn rhanbarth daearyddol pwysig sy’n adnabyddus am ei amrywiaeth o ddiwylliannau, hinsawdd a chlybiau pêl-droed.

“Os ydych chi’n bwriadu ymweld â Gweddill y Byd, ystyriwch Wrecsam, mae’n dîm balch sy’n falch iawn cael i fod yn Fifa 22.”

“Cyffrous”

“Dim ond nifer fach o frandiau sydd o fewn pêl-droed y gellir ei ystyried yn eiconig a bod pob clwb am fod yn gysylltiedig ag ef,” meddai Humphrey Ker, Cyfarwyddwr Gweithredol Clwb Pêl-droed Wrecsam wrth ymateb i gais gan golwg360 am sylw.

“Mae pawb yn wirioneddol gyffrous fod Wrecsam yn ymuno â FIFA 22.

“Soniodd y cyd-gadeiryddion am gwneud Wrecsam yn rym byd-eang pan ddaethant yn geidwaid ac yn awr yn gallu, gyda’n cefnogwyr, i ymgymryd â Gweddill y Byd, fel rhan o’r daith honno.”

Mae EA Sports hefyd wedi croesawu’r bartneriaeth newydd.

“Mae’n wych bod yn bartner gyda Chlwb Pêl-droed Wrecsam ac i gefnogi ymrwymiadau’r clwb i’r Cymuned Wrecsam a’i chefnogwyr,” meddai’r cyfarwyddwr brandio, David Jackson.

“Rydym yn gyffrous i lansio prosiectau cymunedol arloesol mewn cydweithrediad â’r Clwb, ac i gefnogwyr Wrecsam gael profiad o chwarae gyda’u tîm yn FIFA 22 pan fydd y gêm yn rhyddhau yn ddiweddarach y mis hwn.”