“Canlyniad siomedig, perfformiad siomedig” oedd ymateb Mick McCarthy, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, ar ôl gweld ei dîm yn colli o 1-0 oddi cartref yn erbyn Coventry neithiwr (nos Fercher, Medi 15).
Gôl Viktor Gyokeres ar ôl chwarter awr oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm, ar ôl iddo fe fachu ar gyfle oddi ar bàs gan Callum O’Hare.
Roedd Coventry i lawr i ddeg dyn yn hwyr yn y gêm yn dilyn cerdyn coch i Fankaty Dabo am drosedd ar Marlon Pack.
Ond roedd Coventry wedi bod yn bygwth drwy gydol y gêm, gyda Gustavo Hamer yn tanio dwy ergyd gynnar at y gôl.
Daeth cyfleoedd eraill i O’Hare a gafodd ei drechu gan amddiffyn yr Adar Gleision, ac i Dom Hyam a ddylai fod wedi dyblu mantais Coventry wrth ergydio oddi ar groesiad Martyn Waghorn.
Roedd ambell gyfle i Gaerdydd hefyd drwy James Collins a Joel Bagan.
“Canlyniad siomedig, perfformiad siomedig,” meddai Mick McCarthy ar ddiwedd y gêm wrth i Coventry sicrhau pedwaredd buddugoliaeth mewn pedair gêm gartref.
“Nhw oedd y tîm gorau ac roedden nhw’n haeddu ennill.
“Y cyfan fyddwn i’n ei ddweud am ein tîm yw eu bod nhw wedi dal ati ac fe gawson ni gyfle.
“Cawson nhw fwy na ni ond fe gawson ni ein cyfle tuag at y diwedd, sawl cyfle, ond cawson ni ein curo.
“Roedd amddiffyn da gan y tri yn y cefn i’w hatal nhw rhag cael gôl arall, felly roedden nhw’n haeddu ennill a does dim amheuaeth yn fy meddwl am hynny.”