Mae Russell Martin, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud ei fod e’n teimlo’n “siomedig” ar ôl gêm gyfartal ddi-sgôr arall yn erbyn Millwall yn Stadiwm Swansea.com neithiwr (nos Fercher, Medi 15).

Bu’n rhaid i Bartosz Bialkowski, golwr Millwall, wneud sawl arbediad yn ystod yr ail hanner i gadw’r Elyrch allan wrth iddyn nhw wella’n sylweddol o’r hanner cyntaf a’r gemau blaenorol.

Daeth un o gyfleoedd gorau’r gêm yn hwyr yn yr ail hanner, gyda chwip o arbediad gan y golwr yn atal cic rydd yr eilydd Liam Walsh, oedd wedi cyflymu chwarae ei dîm ar ôl dod i’r cae.

“Dw i’n siomedig nad oedden ni wedi ennill, ro’n i’n gwybod beth i’w ddisgwyl heno ac ro’n i’n poeni y bydden ni’n ei chael hi’n anodd o ran ein dwyster oherwydd faint o ymdrech wnaethon nhw ddydd Sadwrn [yn erbyn Hull], ac rydyn ni’n dal i frwydro i’w cael nhw lle’r ydyn ni eisiau iddyn nhw fod yn gorfforol,” meddai Russell Martin.

“Byddai gôl wedi newid cyd-destun y gêm, roedd yna stwff da ond wnaethon ni ddim sgorio.

“Pe baen ni wedi sgorio, byddai hi wedi bod yn wahanol, ond dw i yn teimlo ei bod hi’n dod.”

‘Ar y trywydd iawn’

Er gwaetha’r diffyg goliau, sy’n golygu mai Abertawe sy’n gydradd gwaelod yn y tabl goliau, mae Russell Martin yn teimlo bod ei dîm ar y trywydd cywir ar ôl bod yn cwyno na chawson nhw ddigon o amser i baratoi cyn dechrau’r tymor gan ei fod e wedi’i benodi’n hwyr.

Dim ond unwaith mae’r Elyrch wedi sgorio mewn pedair gêm gartref.

“Dw i’n teimlo ei bod hi’n dod,” meddai am ei fuddugoliaeth gartref gyntaf wrth y llyw yn yr Elyrch.

“Allwn ni ddim cynnal y lefelau egni ar hyn o bryd ond mae’r chwaraewyr yn credu yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud ac yn cyrraedd yno.”

Mae Millwall bellach yn ddi-guro mewn pedair gêm.