Mae Alan Tate, un o hoelion wyth Clwb Pêl-droed Abertawe, wedi cael swydd newydd sy’n golygu y bydd e’n gyfrifol am y chwaraewyr sydd wedi gadael y clwb ar fenthyg.

Hyd yma, roedd y cyn-amddiffynnwr canol poblogaidd wedi bod yn rhan o dîm hyfforddi’r tîm cyntaf.

Ond ers i Russell Martin gael ei benodi, mae e wedi dod â’i staff ei hun gyda fe, ac mae’n ymddangos nad yw Tate bellach yn rhan o’r tîm fydd ar yr ystlys.

Roedd sïon yn Stadiwm Swansea.com neithiwr (nos Fercher, Medi 15) am ffrae rhwng Tate a Martin.

Ac mae’n dilyn llun o Tate yn siarad â Brendan Rodgers, cyn-reolwr Abertawe sydd bellach yn rheoli Leicester City, sydd wedi arwain at gryn ddyfalu y gallai adael y clwb yn gyfangwbl.

Cyn i Martin gael ei benodi, roedd Tate wrth y llyw am un gêm gyfeillgar yn erbyn Forest Green Rovers tra bod y clwb yn chwilio am reolwr newydd i olynu Steve Cooper.

Yn ei swydd newydd, mae disgwyl i Tate fonitro Ollie Cooper (Casnewydd), Kyle Joseph (Cheltenham), Josh Gould (Ebbsfleet) a Jordon Garrick (Plymouth).