Mae olwr Cymru, George North, wedi arwyddo cytundeb newydd, dwy flynedd o hyd, gydag Undeb Rygbi Cymru a’r Gweilch.

Fe arwyddodd ei gytundeb deuol cyntaf yn 2018, gan ymuno â’r Gweilch ar ôl cyfnod yn chwarae gyda Northampton yn Lloegr.

Mae’r chwaraewr 29 oed allan ar hyn o bryd ar ôl rhwygo ligament yn gynharach yn y flwyddyn – anaf a olygodd y byddai’n methu cyfres y Llewod yr haf hwn.

“Wrth fy modd”

“Dw i wir wedi mwynhau fy mlynyddoedd cyntaf yma yn y Gweilch, felly dw i wrth fy modd fy mod i’n ymestyn fy nghyfnod yma yng Nghymru,” meddai George North.

“Mae’r clwb yn edrych ymlaen yn fawr at y dyfodol ac rwy’n edrych ymlaen at chwarae fy rôl wrth helpu nhw i wneud cynnydd eleni.

“Mae’n anrhydedd chwarae i Gymru, a’n rhywbeth dydw i byth yn ei gymryd yn ganiataol.

“Fy ffocws nawr yw dod yn ôl yn heini a chwarae eto.”

Cyrraedd y cant

Mae gan George North 102 cap i Gymru – gan ennill dwy gamp lawn yn 2012 a 2017 – ac mae wedi ymddangos dair gwaith yng ngemau prawf y Llewod hefyd ar deithiau 2013 a 2017.

Dim ond Shane Williams sydd â mwy o geisiau na’r 42 mae North wedi eu sgorio dros ei wlad, ond mae amser ar ei ochr wrth iddo fynd am y record bresennol o 58.

Fo hefyd yw’r chwaraewr ieuengaf i ennill 100 o gapiau gemau prawf mewn rygbi rhyngwladol, ar ôl iddo gyrraedd y garreg filltir honno yn erbyn Lloegr yn y Chwe Gwlad eleni.

George North yn rhedeg gyda'r bel
George North yn chwarae dros Gymru

Mae prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Wayne Pivac, wedi rhoi clod i North wrth iddo arwyddo ei gytundeb newydd.

“Rydyn ni wrth ein boddau bod George yn parhau â’i yrfa yng Nghymru,” meddai Wayne Pivac.

“Roedd yn gwbl annatod i’n buddugoliaeth ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y tymor diwethaf.

“Rydyn ni i gyd yn gwybod beth mae wedi ei gyflawni wrth chwarae ar yr asgell ac mae wedi adeiladu ar hynny gyda pherfformiadau o safon byd yn chwarae fel canolwr i’w wlad.

“Mae o wedi casglu llawer iawn o brofiad rhyngwladol yn ifanc iawn a dwi’n edrych ymlaen at weithio gyda fo yn y dyfodol.”