Mae cyfyngiadau Covid-19 wedi effeithio ar ambell gystadleuaeth yn yr Eisteddod AmGen sy’n cael ei chynnal ar y We yn lle’r Eisteddfod Genedlaethol arferol eleni.
Yn ôl Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, mae’r cyfyngiadau wedi golygu nad oedd modd i rai grwpiau ddod ynghyd i ymarfer mewn pryd.
Er hynny, mae’r Eisteddfod yn dweud fod canmoliaeth fawr i’r safon eleni, ac amryw yn sôn am y wefr o gael ymarfer a pharatoi at gystadlu eto.
Bydd yr Eisteddfod AmGen yn cael ei chynnal rhwng 31 Gorffennaf a 7 Awst ar draws pob platfform a chyfryngau digidol.
Gan fod yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ar-lein, mae’n gyfle i arbrofi gydag ambell gystadleuaeth newydd hefyd, megis dwy gystadleuaeth gerddoriaeth electroneg.
Bydd enillwyr Dysgwr y Flwyddyn ac Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnos hefyd, a bydd arlwy o berfformiadau gan gynnwys sioe Gabarela newydd sbon.
“Effeithio ar ambell gystadleuaeth”
“Ry’n ni’n edrych ymlaen at rannu wythnos o gystadlu arbennig gyda’r gynulleidfa fel rhan o Eisteddfod AmGen eleni, ac ry’n ni’n ddiolchgar iawn i’r cystadleuwyr a’r beirniaid am eu holl waith hyd yn hyn wrth baratoi ar gyfer y rownd derfynol,” meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol.
“Mae canmoliaeth fawr i’r safon eleni, ac amryw yn sôn am y wefr o gael ymarfer a pharatoi ar gyfer cystadlu ar ôl cyfnod mor anodd a maith.
“Ry’n ni’n ymwybodol nad pawb sy’n gallu cystadlu eleni, ac yn gwerthfawrogi’r ffaith bod nifer o’n cystadleuwyr, yn unigolion a grwpiau torfol, wedi cysylltu i sgwrsio am y peth.
“Mae cyfyngiadau Covid wedi effeithio ar ambell gystadleuaeth gan nad oedd modd i rai grwpiau ddod ynghyd i ymarfer mewn pryd oherwydd hyn.
“Ond braf yw gweld cynifer wedi llwyddo, ac fe fydd gwledd o gystadlu i bawb ei fwynhau ymhen y mis.
“Byddwn hefyd yn rhoi llwyfan amlwg i enillwyr ein cystadlaethau cyfansoddi ac yn creu arddangosfa arbennig rithwir ar gyfer ceisiadau Y Lle Celf.
“Byddwn yn cyhoeddi manylion ein rhaglen lawn maes o law, sy’n gyffrous ac yn sicr yn cynnwys rhywbeth i bawb o bob oed.”