Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi Rhestr Fer Saesneg Gwobr Llyfr y Flwyddyn eleni.
Cafodd enwau’r deuddeg llyfr Saesneg a fydd yn cystadlu am y wobr eu datgelu heno (2 Gorffennaf) ar raglen The Arts Show ar BBC Radio Wales.
Yn gynharach yr wythnos hon, cafodd Rhestr Fer Gymraeg y Wobr ei chyhoeddi, a bydd y llyfrau Saesneg yn cystadlu yn yr un pedwar categori – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol, a Phobol Ifanc.
A bydd un awdur o blith y pedwar categori yn ennill y brif wobr Llyfr y Flwyddyn a siec am £3,000.
Y beirniaid ar gyfer y gwobrau Saesneg yw’r bardd, awdur a dawnsiwr Tishani Doshi; yr athro, adolygwr a dylanwadwr Scott Evans; y Paralympiwr, aelod o Dŷ’r Arglwyddi, siaradwr cymhelliant a darlledwr Tanni Grey-Thompson; a’r academydd, awdur, actifydd a chyn-enilydd Llyfr y Flwyddyn, Charlotte Williams.
Bydd enillwyr y gwobrau Saesneg yn cael eu cyhoeddi ar The Arts Show nos Wener 30 Gorffennaf, rhwng 6 a 7yh.
Gwobr BARDDONIAETH
Tiger Girl, Pascale Petit (Bloodaxe Books)
Come Down, Fiona Sampson (Corsair Poerty)
Road Trip, Marvin Thompson (Peepal Tree Press)
Gwobr FFUGLEN Ymddiriedolaeth Rhys Davies
The Memory, Judith Barrow (Honno Press)
Salt, Catrin Kean (Gwasg Gomer)
Wild Spinning Girls, Carol Lovekin (Honno Press)
FFEITHIOL GREADIGOL
The Amazingly Astonishing Story, Lucy Gannon (Seren Books)
Slatehead: The ascent of Britain’s Slate climbing scenes, Peter Goulding (New Welsh Review)
Lady Charlotte Guest: The Exceptional Life of a Female Industrialist, Victoria Owens (Pen & Sword)
PLANT A PHOBL IFANC
The Infinite, Patience Agbabi (Canongate Books)
Blood Moon, Lucy Cuthew (Walker Books)
Wilde, Eloise Williams (Firefly Press)
“Ystod o leisiau aruthrol”
“Mae’r rhestr fer hon yn adlewyrchu ystod o leisiau aruthrol awduron Cymru, yn ystod cyfnod eithriadol o anodd,” meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru.
“Mae nifer ohonom wedi dianc rhwng cloriau llyfr da yn ystod y deunaw mis diwethaf, ac mae cynnyrch y Rhestr Fer hon yn sicr wedi cynnig cysur a chwmnïaeth i sawl darllenydd.
“Ar ran Llenyddiaeth Cymru, hoffwn longyfarch yr holl awduron sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer 2021, a diolch i chi am ysbrydoli ein darllenwyr yn ystod blwyddyn ble mae grym llenyddiaeth wedi bod yn bwysicach nag erioed.
“Argymhellaf yn fawr ymweliad â’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol, er mwyn darllen y llyfrau gwych yma gan ein hawduron talentog o Gymru.”
Bydd cyfanswm o £14,000 yn cael ei rannu ymysg yr enillwyr, gydag enillydd pob categori’n derbyn £1,000 a’r prif enillydd yn ennill £3,000 ychwanegol.
Yn ogystal, bydd pob enillydd yn derbyn tlws eiconig Llyfr y Flwyddyn sydd wedi’i ddylunio gan yr artist a’r gof Angharad Pearce Jones.