Bydd sioe Cabarela newydd sbon yn rhan o arlwy Eisteddfod AmGen eleni, gyda’r Cabarela Coll yn gyd-gynhyrchiad gan yr Eisteddfod a Chanolfan yr Egin.

Ar nos Wener, Awst 6, bydd y criw’n perfformio sioe newydd sbon yn fyw o Ganolfan yr Egin yng Nghaerfyrddin.

Gan ddweud bod croeso cynnes iawn i oedolion eangfrydig a meddwl-agored ymuno â’r hwyl, bydd tocynnau ar gael ar wefan yr Eisteddfod.

Gyda’r un criw ag arfer wrth y llyw, byddan nhw’n cynnig golwg unigryw ar bopeth sy’n ymwneud â’r Eisteddfod a thu hwnt.

Mae’r cast eleni’n cynnwys merched Sorela – Lisa Angharad, Gwenno Elan a Mari Healy – yn ogystal ag Elain Llwyd, Miriam Isaac, Meilir Rhys Williams, Iestyn Arwel, Trystan Llŷr Griffiths a Jess Robinson, gydag ambell westai arbennig.

“Mynd yn wyllt”

“Wedi diflasu fod ‘na ddim ‘Steddfod am yr ail flwyddyn yn olynol? Dim panics! Mae Cabarela yma i’ch atgoffa chi o holl ogoniant ein hoff ŵyl ni gyda rhaglen bigion unigryw!” meddai Lisa Angharad ar ran y criw.

“Ry’n ni am i Gymru fynd yn wyllt nos Wener 6 Awst – o fewn y cyfyngiadau wrth gwrs – wrth i ni ddod â’n sioe newydd i gartrefi a gerddi ar draws y wlad, gan roi cipolwg o’r ‘Steddfod mewn ffordd wahanol a chreu ‘bwrlwm i’r ŵyl’ na welwyd ei debyg erioed o’r blaen.

“Ac wrth gwrs, ‘dyw’r un ‘Steddfod yn gyflawn heb griw o feirniaid, ac ar y noson, y chi fydd ein beirniaid ni, wrth i ni eich gwahodd chi i roi’ch barn ar y sioe yn fyw yn Yr Egin!”

Dydy’r sioe ddim yn addas ar gyfer plant, ond mae hi yn addas ar gyfer pobol agored eu meddwl, sy’n hoff o gael, a bod “fymryn yn wamal” o dro i dro, meddai’r trefnwyr.