Mae cynghorwyr Ceredigion wedi clywed ddoe (Ebrill 5) ei bod hi’n annhebygol y bydd rheilffordd yn cysylltu Caerfyrddin ac Aberystwyth yn agor yn y 30 neu’r 40 mlynedd nesaf.
Ers blynyddoedd, mae sawl un, gan gynnwys aelodau o Blaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn lleol, wedi galw am ailagor y lein rhwng y ddwy dref.
Cafodd y rheilffordd ei chau yn wreiddiol o ganlyniad i doriadau Beeching ym mis Chwefror 1965; ac yn ôl yr amcangyfrifon byddai’r costau ar gyfer ei hailagor mor uchel ag £800 miliwn.
Daeth yr adroddiad, ‘Coridor Rheilffordd Strategol ar gyfer gorllewin Cymru’, ddwy flynedd ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi eu hadroddiad dichonoldeb, gan nodi nad oes unrhyw rwystrau mawr i’w hatal rhag cael ei hagor, ac y byddai’r rheilffordd newydd yn costio tua £775m.
Fe wnaeth yr astudiaeth ddichonoldeb yn 2018 gadarnhau canfyddiadau’r astudiaeth wreiddiol yn 2015 fwy neu lai, gan gynnwys nodi bod 97% o wely gwreiddiol y rheilffordd yn glir a bod ailagor yn bosibilrwydd realistig.
Ers hynny, mae Pwyllgor Craffu ac Adolygu Cymunedau Ffyniannus wedi clywed ei bod hi’n ymddangos bod unrhyw obeithion i ailagor y rheilffordd yn perthyn i’r dyfodol pell.
Llwybrau cerdded
Roedd y pwyllgor yn trafod rhaglenni cerddau a llwybrau cerdded ar hyd yr hen reilffordd yn y sir, a’r effaith fyddai’r posibilrwydd o ailagor y rheilffordd yn ei chael ar y fath raglen.
Wrth drafod y potensial o ddefnyddio’r hen reilffordd, clywodd aelodau bod y cynigion ar gyfer ailagor y rheilffordd am gymryd sawl blwyddyn, a fyddai’n golygu bod modd defnyddio’r rheilffordd ar gyfer pwrpas arall am gyfnod hir.
Gofynnodd yr Athro Stuart Cole CBE a oes unrhyw ateb pendant gan Lywodraeth Cymru ynglŷn ag a fyddai’r rhaglen yn mynd yn ei blaen yn fuan, gan amcangyfrif nad oes yna “unrhyw siawns o gwbl” y byddai’n ailagor yn y “40 mlynedd nesaf”.
Dywedodd Phil Jones, Rheolwr Corfforaethol Gwasanaethau’r Priffyrdd: “Mae’n rhywbeth y bydden ni’n hoffi cael ateb pendant yn ei gylch oherwydd mae yng nghefn ein meddyliau drwy’r amser.
“Ond, ar gyfer y pwrpas o ehangu’n [rhaglen] teithio actif ar hyd y rheilffyrdd hyn, os nad yw’n mynd i ddigwydd am y 30 neu 40 mlynedd nesaf, mae’r golau’n wyrdd i ni barhau â’n cynigion.”
Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson: “Yn y tymor hir efallai y byddem ni’n edrych ar ddod a’r rheilffordd yn ôl, ond yn y tymor byr mae gennym ni gyfle i ehangu defnydd yr hen lein, cyfle i’w defnyddio ar gyfer ryw bwrpas.”