Mae mesurau yn cael eu treialu yng Ngheredigion i greu trefi mwy diogel a chroesawgar, ynghyd â gwella llif traffig yn yr ardaloedd arfordirol hynny.
Byddai’r mesurau hynny gan Gyngor Sir Ceredigion yn cynnwys gwella llif traffig a threfniadau parcio yng nghanol trefi Aberaeron, Aberteifi, Aberystwyth a Cheinewydd.
Daw hyn ar ôl i’r Cyngor gyflwyno ‘Parthau Diogel’ dros dro mewn rhai trefi ar ddechrau’r pandemig, er mwyn caniatáu i ymwelwyr gadw pellter cymdeithasol ac i alluogi busnesau fasnachu yn yr awyr agored.
Ar Fedi 5 y llynedd, daeth mwyafrif y cyfyngiadau hynny i ben, ac roedd ymgynghoriad cyhoeddus wedi’i gynnal yn ystod y misoedd dilynol i asesu eu heffaith a chasglu syniadau ar gyfer y dyfodol i drefi Ceredigion.
Mesurau parhaol yn y dyfodol?
Mae’r Cabinet bellach wedi cyhoeddi y byddan nhw’n treialu syniadau ac yn gosod dau Orchymyn Rheoleiddio Traffig Arbrofol (ETRO).
Bydd un o’r rheiny yn rheoli’r cyfyngiadau parcio yng nghanol trefi, a bydd y llall yn rheoli’r llif traffig unffordd, y gwaharddiadau ar droi i’r dde neu chwith, a mynediad ar gyfer rhai strydoedd.
Gallai’r trefniadau hyn fod mewn grym am gyfnod hyd at 18 mis, yn ôl y cyngor.
‘Wedi profi’n fuddiol’
Dywed y Cynghorydd Dafydd Edwards, yr Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb am Briffyrdd, fod asesiadau wedi dangos buddion o gyflwyno mesurau o’r fath.
“Gwnaed addasiadau i’n trefi arfordirol yn ystod cyfnod cynnar y pandemig i sicrhau y gallai pobol fwynhau Ceredigion yn ddiogel ac yn gyfrifol,” meddai.
“Wrth i ni symud ymlaen, gallwn weld fod rhai o’r addasiadau cychwynnol hyn wedi profi’n fuddiol i gynllun y trefi er mwyn sicrhau rhwyddineb mynediad a diogelwch ar gyfer pawb sy’n byw ac yn ymweld â’r llefydd hyn.”
‘Effaith negyddol’
Roedd y cyfyngiadau gwreiddiol wedi eu llunio gan dasglu arbennig a oedd yn gyfrifol am holl ymateb y Cyngor i Covid-19, a olygodd fod cynghorwyr heb gael dweud eu dweud ynglŷn â’r Parthau Diogel.
Dywed y Cynghorydd Ceredig Davies, sy’n cynrychioli ward Canol Aberystwyth, nad yw e o reidrwydd yn anghytuno â chyflwyno mesurau yn ystod y pandemig, ond bod eu cadw nhw’n mynd i gael effaith ar fusnesau a phobol y dref.
“Yn yr haf efo gymaint o bobol yma, mae’n bosib bod beth gafodd ei wneud wedi bod o fudd,” meddai wrth golwg360.
“Ond roedd sgil-effaith ar bobol sy’n byw yng nghanol tref a busnesau yng nghanol tref, a’r rheiny sydd eisiau cael mynediad at wasanaethau yno.
“Dw i’n credu bod hynny wedi cael effaith negyddol iawn.
“Mae pobol yn ei chael hi’n galed byw yng nghanol tref a’n cael trafferthion gyda pharcio, a’r rheiny sydd eisiau mynychu gwasanaethau.
“Beth sydd wedi digwydd yw bod lot o fusnes y dref wedi symud allan o’r canol i’r canolfannau siopa sydd i’r dwyrain o Aberystwyth.”
‘Rydyn ni wedi cael yr arbrawf’
Mae’r Cynghorydd Ceredig Davies yn cytuno bod rhyw fath o ddatrysiadau’n bosib, ond y dylen nhw fod wedi cael eu hasesu’n fwy trylwyr.
“Beth fydden i’n disgwyl yw bod rhyw fath o astudiaeth wedi bod, a bod pethau ddim yn cael eu gwneud gyda gut instinct efallai,” meddai.
“Mae’r Cyngor Sir yn dweud bod hwn yn arbrawf, ond rydyn ni wedi cael yr arbrawf yn 2020 a 2021 [yn ystod y pandemig].”
Bydd swyddogion nawr yn dechrau ar y broses gyfreithiol o gyflwyno’r gorchmynion ETRO.
Pan fyddan nhw wedi eu cyflwyno, bydd gan aelodau o’r cyhoedd chwe mis i gyflwyno unrhyw adborth ar y trefniadau newydd.
Wedi’r cyfnod hwnnw, bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu dirymu, addasu, parhau i ymgynghori, neu gadw’r gorchmynion yn barhaol.