Mae cynghorydd yng Ngheredigion wedi beirniadu’r syniad o gadw’r ardaloedd diogel sydd wedi eu cyflwyno yn ystod y pandemig yn barhaol.
Cafodd yr ardaloedd hyn eu pennu gan dasglu arbennig sydd yn gyfrifol am holl ymateb y Cyngor i Covid-19, fel nad oes oedi wrth amddiffyn iechyd a diogelwch y cyhoedd.
Mae hyn yn golygu nad oes ymgynghori llwyr wedi bod gyda chynghorwyr, a bod penderfyniadau i bob pwrpas yn cael eu gwneud gan bwyllgor sydd heb eu hethol.
Mae’r ardaloedd diogel yn un o’r newidiadau sydd wedi eu cyflwyno mewn trefi fel Aberystwyth, Aberaeron ac Aberteifi.
Ymgynghoriad llawn
Yn ddiweddar, cafodd ymgynghoriad â’r cyhoedd ei gynnal ac yn dilyn hynny, bu addasiadau bychain mewn rhai mannau.
Un o’r addasiadau a gafodd eu cyflwyno oedd sicrhau bod gwell mynediad ar gyfer deiliaid bathodynnau glas oedd wedi ei chael hi’n anodd cerdded yn bell drwy’r dref.
Ond mae pobol yn dal i gwyno, yn ôl y cynghorydd Ceredig Davies, sydd wedi bod yn siarad â golwg360.
“Mae gen i siop ar y stryd fawr, ac mae pobol wedi bod yn achwyn i fi trwy’r dydd, yn dweud eu bod nhw’n cael hi’n galed i gyrraedd eu cerbyd neu i dorri gwallt ac yn y blaen,” meddai.
“Os yw’r gwasanaethau hynny o fewn yr ardaloedd diogel, mwy na thebyg fydd neb yn gallu mynd yn agos atyn nhw.
“Beth sy’n rhwystredig i fi fel cynghorydd yw ni yw gwyneb y cyngor ond ry’n ni ddim yn cael mewnbwn digonol i’r parthau hyn.
“Rydyn ni wedi eich ethol chi i gynrychioli ni ond dydych chi ddim yn gallu gwneud dim byd.”
“Mae’r [cyhoedd] yn disgwyl bod gennym ni reolaeth dros y gold command.”
“Ond yr unig bobol sydd â rheolaeth dros y gold command yw’r arweinydd a’r dirprwy arweinydd.”
‘Cefnogaeth fwyafrifol’
Wrth ymateb i’r cwynion, cadarnhaodd y cynghorydd Alun Williams mai’r “ymateb ar gynllun Parthau Diogel Aberystwyth oedd 59% o blaid gyda 37% yn erbyn.”
“Felly ar y pryd roedd cefnogaeth fwyafrifol er gyda nifer sylweddol yn gwrthwynebu,” meddai.
“Y peth pwysig yw ein bod ni’n gwrando ar bryderon – yn enwedig gan bobol anabl a bregus – lle bynnag y bo hynny’n bosibl.
“Mae’r Cyngor wedi ymateb trwy gynyddu nifer y lleoedd parcio i’r anabl mewn strydoedd sy’n ffinio â’r parth yn fawr.”
Cau strydoedd yn barhaol?
Mae Ceredig Davies, y cynghorydd dros Ganol Aberystwyth, wedi dweud wrth golwg360 fod yna “ambell i gynghorydd sydd o’r farn ddylai na ddim ceir fod yng nghanol dref, felly maen nhw’n ymfalchïo bod y penderfyniad hwn wedi cael ei wneud”.
“Tu allan i Covid, bydden nhw ddim wedi gallu gwneud dim o hynny heb gael ymgynghoriad statudol llawn,” meddai.
“Beth rydyn ni’n poeni amdano nawr yw bod beth sydd wedi ei wneud yn y strydoedd yma – fe ddeith e’n rhywbeth parhaol.”
Dywedodd y cynghorydd Alun Williams mewn erthygl i elusen SUSTRANS y llynedd y byddai’n “anodd” i’r cyngor beidio â chadw’r ardaloedd yn y dyfodol.
Honnodd hefyd bod yr argyfwng Covid wedi galluogi i’r sir leihau’r prosesau arferol sydd tu ôl i gynllunio trefi.
Tynnu nyth cacwn
Mae Ceredig Davies yn gyndyn fod rhaid gwrando ar yr holl gynghorwyr a’r cyhoedd.
“Petai nhw wedi gwneud hynny y llynedd, fydden nhw ddim wedi cael eu beirniadu mor hallt,” meddai.
“Fi’n fodlon derbyn oedd rhaid iddyn nhw wneud penderfyniadau’n gyflym, petai nhw wedi ymgynghori’n well fydden nhw heb dynnu cymaint o nyth cacwn ar ein pennau ni.
“Mae hwn yn cael effaith ar y dre ac mae’n rhaid bod ymgynghoriad llawn.”
Ar hyn o bryd, mae’r cynlluniau yn eu lle tan Chwefror 2022.