Etholiad Cyffredinol 2024

“Y Blaid Lafur yn gwneud niwed i ddemocratiaeth Cymru” drwy barasiwtio ymgeiswyr i mewn

Elin Wyn Owen

“Mae’n bwysig bod y Blaid Lafur yn dysgu nad ydych chi’n cymryd cymunedau Cymru yn ganiataol”

Plaid Cymru’n “anghytuno’n sylfaenol” â bwriad “mudo sero net” Nigel Farage

Elin Wyn Owen

Daeth cadarnhad bellach fod Nigel Farage wedi’i benodi’n arweinydd Reform UK, a’i fod yn ymgeisydd ar gyfer yr etholiad cyffredinol

Llafur gryn dipyn ar y blaen, yn ôl arolwg barn newydd

Mae traean o’r rhai roddodd eu pleidlais i Blaid Cymru yn 2019 yn dweud y byddan nhw’n cefnogi Llafur y tro hwn
Ann Davies, ymgeisydd Seneddol Plaid Cymru dros Gaerfyrddin

Brexit y Ceidwadwyr yn bygwth Cymru wledig, medd ymgeisydd Plaid Cymru

“Amddiffyn, cadw a hyrwyddo” yw mantra Plaid Cymru, medd Ann Davies, ymgeisydd y Blaid yng Nghaerfyrddin
Papur pleidleisio'n cael ei roi yn y blwch

Y Ceidwadwyr wedi dangos “lefel newydd o anallu”

Dydy’r Ceidwadwyr ddim wedi cyflwyno enwau ymgeiswyr ar gyfer pob etholaeth yng Nghymru

Cyn-Gyfarwyddwr Cyfreithiol Keir Starmer am sefyll yng Ngorllewin Caerdydd

Mae Kevin Brennan wedi penderfynu peidio sefyll eto, a’r gred yw mai Alex Barros-Curtis fydd yn sefyll yn ei le

Golwg Rhys ar Wleidyddiaeth: Corwynt yn cychwyn o fewn y Blaid Lafur

Rhys Owen

Yn system lywodraethu hynod ddwybleidiol San Steffan, mae’n hawdd gweld pwysigrwydd deialog fewnol i sicrhau nad yw’r Prif Weinidog yn …

O goch i wyrdd?

Rhys Owen

Mae’r Blaid Werdd yn croesawu pobol sydd wedi’u “dadrithio” gan y Blaid Lafur, yn ôl yr arweinydd Anthony Slaughter

Gwleidyddion Plaid Cymru’n trafod helynt Llafur yn etholaeth Gorllewin Abertawe

Mae Geraint Davies wedi cadarnhau na fydd yn sefyll eto, ac mae adroddiadau bod Llafur yn barod i gyflwyno ymgeisydd o Lundain

Diane Abbott: “Elfen o control freak” yn perthyn i Keir Starmer, medd Liz Saville Roberts

Rhys Owen

“Yr ofn yma o ddweud unrhyw beth sydd yn mynd i droi’r wasg adain dde yn eu herbyn nhw wedi arwain at y driniaeth wael o Diane Abbott”