Mae Brexit y Ceidwadwyr yn bygwth cymunedau gwledig Cymru, yn ôl ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer etholaeth Caerfyrddin yn yr etholiad cyffredinol.

Mae’r Blaid yn annog pleidleiswyr i’w cefnogi nhw ar Orffennaf 4, er mwyn gwarchod cymunedau rhag “etifeddiaeth niweidiol” ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd, gafodd ei arwain gan y Ceidwadwyr yn San Steffan.

Yn ôl Ann Davies, mantra Plaid Cymru ar gyfer yr etholiad yw “amddiffyn, cadw a hyrwyddo” cefn gwlad.

Mae hi wedi amlinellu rhai o addewidion gwledig allweddol ei phlaid yn yr etholiad.

‘Anodd cofio cyfnod mwy heriol’

“Mae’n anodd cofio cyfnod mwy heriol i’r sector amaethyddol,” meddai Ann Davies.

“Mae’r ergyd gafodd ei tharo gan Brexit ac addewid toredig y Torïaid o ‘ddim ceiniog yn llai’ yn golygu bod ein ffermwyr bellach wedi’u llorio â gwaddol niweidiol brad y Ceidwadwyr.

“Erbyn y flwyddyn nesaf, bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi torri tua £290m o’r gyllideb amaethyddol o’i gymharu â’r hyn roedden ni’n arfer ei gael gan yr Undeb Ewropeaidd cyn Brexit, gyda llawer o sectorau o fewn y diwydiant yn wynebu mwy, nid llai, o rwystrau.

“Dim ond un enghraifft yw cynhyrchu bwyd.

“Ar hyn o bryd, mae elfen echdynnol i gynhyrchu yng Nghymru o ganlyniad i allu prosesu lleol gwael.

“Dyna pam mae Plaid Cymru eisiau gwella cadwyni cyflenwi lleol i sicrhau bod gwerth y bwyd yn aros o fewn cymunedau lleol.

“Yn ystod refferendwm yr Undeb Ewropeaidd, fe wnaeth y Torïaid addo ‘torri biwrocratiaeth’ ond mae realiti’r dirwedd ôl-Brexit yn golygu bod y diwydiant bellach yn wynebu mwy o wiriadau, mwy o rwystrau, a mwy o oedi tra bod cystadleuwyr ar y cyfandir yn cael mynediad dilyffethair i’r Deyrnas Unedig.

“Mae ‘Dim Ffermwyr Dim Bwyd’ yn realiti llawn cymaint ag y mae’n gri ralïo bwerus.

“Dyna pam y bydd Plaid Cymru bob amser yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi mesurau sy’n sicrhau bod rheoliadau cynhyrchu bwyd yn deg i’r ffermwr a’r defnyddiwr.

“Mae’r cyd-destun ehangach yng Nghymru yn yr Etholiad Cyffredinol hwn yn un o effeithiau tanseilio cytundebau masnach newydd, cynnydd mewn costau ffermio, rheoliadau NVZ Llywodraeth Lafur Cymru a’r methiant i fynd i’r afael â TB mewn bywyd gwyllt – mae pob un ohonyn nhw yn cael ei deimlo’n llym o fewn y gymuned ffermio.

“Mae Plaid Cymru hefyd yn croesawu saib Llafur i adolygu’r broses o gyflwyno’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yng Nghymru – galwad a wnaethom beth amser yn ôl – sy’n amlwg yn gofyn am fwy o ymgynghori â ffermwyr ynghylch y ffordd orau o gyflawni ei nodau.

“Yn olaf, mae’n rhaid i’r ‘premiwm gwledig’ lle gall byw mewn ardaloedd gwledig gostio mwy na byw mewn ardaloedd trefol tra bod gwasanaethau ar gael yn llai rhwydd ddod yn beth o’r gorffennol os ydym am sicrhau dyfodol hyfyw a chynaliadwy.

“Bydd ein haddewid i gynyddu meddygon teulu yng Nghymru yn helpu cymunedau i gael mynediad at y gofal iechyd sydd ei angen arnyn nhw, tra byddwn yn gweithio i fuddsoddi yn y stryd fawr leol i gadw siopau ar agor.

“Amddiffyn, cadw a hyrwyddo yw mantra Plaid Cymru pan ddaw i’n cefn gwlad.

“Bydd pleidlais i Blaid Cymru ar Orffennaf 4 yn bleidlais i gefnogi cymunedau gwledig i gynnal eu diwylliant a’u ffordd o fyw, gan warchod rhag bygythiad deublyg y Torïaid a Llafur.”