Roedd Vaughan Gething mor daer dros fod yn Brif Weinidog Cymru fel y derbyniodd “arian budr”, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod cwmni roddodd gyfraniad sylweddol iddo tuag at ei ymgyrch arweinyddol yn wynebu ymchwiliad troseddol ar y pryd.
Yn ôl ymchwiliad gan raglen BBC Wales Investigates, roedd un o gwmnïau’r dyn busnes David Neal yn destun ymchwiliad pan roddodd e £200,000 i Vaughan Gething ar gyfer ei ymgyrch i arwain Llafur Cymru.
Mae’r ymchwiliad gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn edrych ar gwmni Resources Management Limited, sy’n rhedeg safle tirlenwi yn Sir Benfro.
Ers mis Hydref y llynedd, mae pobol sy’n byw ger safle Withyhedge ger Hwlffordd wedi bod yn cwyno am arogl y safle.
Mae cwmnïau David Neal wedi cael eu canfod yn euog ddwywaith cyn hyn o gyflawni troseddau amgylcheddol.
‘Derbyn arian budur’
Wrth ymateb i’r datblygiad diweddaraf, dywed Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, nad ydy’r cyfraniadau i Vaughan Gething yn “pasio’r prawf”.
“Roedd e mor daer dros fod yn Brif Weinidog fel y derbyniodd arian budr, er gwaetha’r boen mae’r cwmnïau hyn wedi’i achosi, ac mae Keir Starmer mor daer dros fod yn Brif Weinidog fel ei fod yn barod i gydsefyll â Vaughan Gething ar y mater,” meddai.
“Mae’n amser adfer uniondeb yn swyddfa’r Prif Weinidog.”
Mae Vaughan Gething yn mynnu nad yw e wedi gwneud unrhyw beth o’i le, ac nad oes rheolau wedi cael eu torri.
Yn ôl BBC Cymru, roedd ffigwr blaenllaw o fewn Llafur Cymru wedi cynnig benthyg arian i Vaughan Gething fel ei fod yn gallu rhoi’r rhodd yn ôl, ond ei fod wedi gwrthod y cynnig hwnnw.
Bydd Vaughan Gething yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder ddydd Mercher (Mehefin 5) yn y Senedd, lai na thri mis ar ôl iddo ddod i’r swydd.