Merched Beca yw’r ysbrydoliaeth ar gyfer gorymdaith annibyniaeth Caerfyrddin ar Fehefin 22.

Er mwyn hyrwyddo’r digwyddiad cenedlaethol, mae YesCymru wedi lansio fideo sydd wedi’i ysbrydoli gan derfysgoedd Merched Beca, ac fe fydd yn cale ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Un o ddigwyddiadau amlycaf yn hanes Merched Beca oedd gorymdaith fawr yng Nghaerfyrddin fis Mehefin 1843, lle gwnaeth miloedd o brotestwyr ymgynnull dan y faner “Cyfiawnder a Charwyr Cyfiawnder Ydym Ni Oll”.

Bydd baner fawr o waith celf gan yr artist Meinir Mathias, sy’n cynnwys y dyfyniad uchod, yn arwain yr orymdaith dros annibyniaeth yng Nghaerfyrddin.

Yn ogystal, ymgasglodd cefnogwyr ym Mharc Caerfyrddin dros y penwythnos i arddangos baner fawr yn hyrwyddo’r digwyddiad, cyn mynd o ddrws i ddrws i ddosbarthu taflenni yn yr ardal.

Mae cefnogwyr wedi bod yn dosbarthu taflenni ledled Sir Gâr a thu hwnt ers wythnosau; erbyn dyddiad yr orymdaith, bydd dros 50,000 o daflenni wedi’u dosbarthu.

‘Ymgorffori dewrder ac ysbryd Merched Beca’

“Gan ymgorffori dewrder ac ysbryd Merched Beca, rydym yn gwahodd holl gefnogwyr annibyniaeth i ymuno â ni ar Fehefin 22 ar gyfer Gorymdaith Annibyniaeth yng Nghaerfyrddin!” meddai Aled Williams o YesCymru Caerfyrddin.

“Byddwn yn ymgynnull ym Mharc Caerfyrddin am 11yb, gyda’r orymdaith yn dechrau am 1yp.

“Dewch â’ch posteri, baneri a drymiau—dewch â’ch angerdd, eich teulu, a’ch ffrindiau.

“Gadewch i ni sicrhau bod ein lleisiau’n cael eu clywed wrth i ni orymdeithio gyda’n gilydd ‘pawb dan un faner’ dros ddyfodol gwell i bawb sy’n byw yng Nghymru.”

Gall pobl gael y wybodaeth ddiweddaraf ar y cyfryngau cymdeithasol drwy chwilio am yr hashnodau #yesCymru, #AUOBCaerfyrddin, #indyWales ac #Annibyniaeth.