Mae newid agweddau at y Gymraeg oddi fewn i Lywodraeth Cymru yn mynd i fod yn broses hir, yn ôl Gweinidog y Gymraeg.
Dyna ddywedodd Eluned Morgan yn ystod sesiwn graffu gerbron un o bwyllgorau’r Senedd brynhawn heddiw.
Holwyd sut mae ei hadran yn sicrhau bod materion y Gymraeg yn cael eu hystyried gan bob un adran, nid jest gan adran y Gymraeg yn unig.
Wrth ateb bu iddi gydnabod bod yr iaith yn cael ei thrin yn fater eilaidd gan adrannau eraill o bryd i’w gilydd, ac y byddai’n cymryd sbel i fynd i’r afael â hyn.
“Dyma faes lle mae angen gwelliant parhaus arnom – gadewch i ni ei ddisgrifio fe fel ’na,” meddai.
“Sut ydym yn troi’r Gymraeg yn fater prif ffrwd [oddi fewn i’r Llywodraeth] yn hytrach nag yn fater sy’n cael ei ystyried ar ddiwedd [y broses o greu polisi]?” ychwanega.
“A dyna ran o’r newid diwylliannol mae’n rhaid i ni ei gyflwyno ledled Llywodraeth Cymru… A bod yn onest mae rhai adrannau yn well nag eraill.
“Ond dw i’n awyddus iawn i weld y newid diwylliannol yma yn digwydd,” meddai wedyn. “Nid yw’n syml nac yn hawdd. Mae hi’n mynd i fod yn siwrne hir. Ond rydym eisoes wedi dechrau ar y daith.”
“Mae fy adran i yn eitha’ bach”
Tynnodd sylw at yr adran addysg fel enghraifft benodol o adran sydd yn rhoi cryn ystyriaeth i’r iaith â’i phenderfyniadau.
“Edrychwch, er enghraifft, ar yr adran addysg a’r hyn sy’n digwydd o ran [Rhaglen] Ysgolion yr 21fed,” meddai.
“Mae arian o hynna wedi cael ei ddefnyddio i yrru polisi er mwyn ceisio cynyddu nifer y bobol sydd yn mynd i ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae hynny’n enghraifft dda iawn o lwyddiant.”
Awgrymodd yn ddiweddarach bod adran y Gymraeg yn cael trafferth dylanwadu ar weddill y Llywodraeth oherwydd ei maint.
“Rhaid i mi dalu teyrnged i swyddogion oddi fewn i adran y Gymraeg,” meddai. “Pan maen nhw’n bwrw ati â’i gwaith maen nhw’n gwneud gwahaniaeth go iawn.
“Ond yn y pen draw mae’r Llywodraeth yn anferth ac mae fy adran i yn eitha’ bach”.
Y Steddfod Gen, yr Urdd a Berwyn
Bu’r gweinidog yn trafod sawl mater arall yn ystod y sesiwn.
Soniodd am ei balchder o allu darparu £1.3m yn rhagor i Urdd Gobaith Cymru, a bu rhywfaint o sôn am ddiswyddiadau arfaethedig oddi fewn i’r Eisteddfod Genedlaethol.
“Beth sy’n bwysig yw bod y ‘Steddfod yn goroesi,” meddai ar ôl tynnu sylw at y ffaith bod y Llywodraeth eisoes wedi darparu cymorth ariannol iddynt.
Tynnwyd sylw hefyd at adroddiad diweddar gan golwg360 am y pryderon bod hawliau Cymraeg carcharorion yn cael eu sathru arnynt yng ngharchar y Berwyn, Wrecsam.
Mi rannodd y gweinidog ei siom, gan bwysleisio ei bod wedi sgwennu llythyr at Lywodraeth San Steffan ynghylch y mater.
“Dw i’n credu dw i wedi bod mor llym ag y galla’ i fod [ynghylch y mater],” meddai Eluned Morgan yn ystod y sesiwn graffu.