Mae Plaid Cymru wedi galw ar y Canghellor i ymrwymo i gefnogi tafarndai a bragdai lleol ledled Gwynedd trwy dorri treth ar gwrw drafft yn y Gyllideb yr wythnos nesaf.
Hyd yma, mae dros 500,000 o bobol wedi llofnodi deiseb yn cefnogi ymgyrch Long Live the Local, sy’n galw ar y Canghellor i dorri treth cwrw ddrafft yn ei Gyllideb, gan gynnwys 668 o Ddwyfor Meirionnydd a 610 o Arfon.
Dywedodd yr Aelodau Seneddol Plaid Cymru dros Dwyfor Meirionydd ac Arfon, Liz Saville Roberts a Hywel Williams, fod angen hwb i fragwyr a thafarndai yng Nghymru.
Daw hyn wrth i ffigyrau ddatgelu bod gwerthiant cwrw tafarndai yn y Deyrnas Unedig wedi gostwng 56% yn 2020, sy’n golled o £7.8bn mewn gwerthiant.
“Tafarndai wrth galon llawer o gymunedau”
“Rydym wedi lobïo’r Canghellor yn gyson i dorri treth ar gwrw drafft gan ein bod yn credu y byddai hyn yn helpu tafarndai sy’n wynebu cystadleuaeth enfawr gan fanwerthwyr rhad, ac o ganlyniad anuniongyrchol, byddai’n ysgogi twf pellach mewn bragdai bach lleol,” meddai Liz Saville Roberts AS a Hywel Williams AS mewn datganiad.
“Mae tafarndai wrth galon llawer o gymunedau ledled Gwynedd, ond gyda lletygarwch yn dwyn baich anghymesur oherwydd pandemig Covid-19, dylai’r llywodraeth fod yn gwneud llawer mwy i gefnogi’r sector, gan gynnwys torri treth ar gwrw drafft.
“Fel ASau sy’n cynrychioli meicro fragdai sydd wedi hen ennill eu plwyf ac sy’n cynhyrchu brandiau nodedig, yn ogystal â llawer o dafarndai traddodiadol Cymreig, rydym wedi hen alw ar y Canghellor i wneud llawer mwy i gefnogi landlordiaid a pherchnogion tafarndai trwy leddfu rhai o’u beichiau treth.
“Gyda chymaint o ansicrwydd ynghylch ailagor yr economi, dylai’r llywodraeth fod yn cymell sectorau dan bwysau i helpu i arwain ein hadferiad economaidd.
“Gyda bywoliaethau ar y lein, rydym yn annog y Canghellor i wrando ar alwadau trawsbleidiol a lleddfu’r pwysau ar ein tafarndai a’n bragdai bach trwy ddarparu cefnogaeth ariannol barhaus, ond yn bwysicaf oll, torri’r dreth ar gwrw drafft.”
“Byddai toriad mewn treth yn mynd yn bell i amddiffyn tafarndai”
Ychwanegodd Cyfarwyddwr y Rhaglen Long Live the Local, David Cunningham: “Mae treth ar gwrw wedi cynyddu 60% dros yr 17 mlynedd diwethaf ac erbyn hyn mae gan y Deyrnas Unedig un o’r cyfraddau treth uchaf yn Ewrop.
“Gyda dros ddwy ran o dair o’r holl ddiodydd alcoholig a brynir yn y dafarn yn gwrw, byddai toriad mewn treth yn mynd yn bell i amddiffyn tafarndai ledled Gwynedd sydd wedi dioddef cymaint yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
“Rydym yn ddiolchgar iawn i Liz a Hywel am eu cefnogaeth i ymgyrch Long Live the Local, ac yn gobeithio bod y Llywodraeth yn gwrando ar ASau ledled y Senedd a’r miloedd o bobl ledled y wlad, sy’n galw am dorri treth cwrw i amddiffyn ein tafarndai.”
“Nid da lle gelli’r gwell!”
Wrth siarad â golwg360 wythnos yn ôl, dywedodd Dewi Siôn, perchennog dwy dafarn ym Methesda, y gall y Llywodraeth fod yn mynd gam ymhellach i’w cefnogi.
“Nid da lle gelli’r gwell!” meddai.
“Dwi’n bersonol wedi dweud erioed mai’r peth pwysicaf i wneud hefo’r sector lletygarwch – mae o’n syml iawn – mae 50% o sales cwrw yn off-licence sale ond mae’r duty ar gwrw siop a chwrw pub yr un fath.
“… sydd hefyd yn un o’r uchaf yn Ewrop. Yn fy marn i, mae angen lleihau hynny i dafarndai a chodi fo i siopau – fysa hynny’n gwneud lot o wahaniaeth.”
Gallwch ddarllen mwy gan bobl o’r sector lletygarwch isod.