Marie Colvin
Mae na alw o’r newydd heddiw ar Arlywydd Syria i ildio’r awenau yn dilyn marwolaeth gohebydd tramor y Sunday Times Marie Colvin yn ninas Homs ddoe.

Bu farw’r newyddiadurwraig, 56 oed, ynghyd â’r ffotograffydd o Ffrainc Remi Ochlik, 28, yn dilyn ymosodiad bom ar y tŷ lle roeddan nhw’n aros gan luoedd y llywodraeth. Cafodd sawl un arall eu hanafu’n ddifrfiol yn yr ymosodiad.

Roedd Marie Colvin, oedd yn dod o Efrog Newydd, wedi bod yn dilyn y trais yn Homs yn dilyn misoedd o wrthdaro rhwng lluoedd y Llywodraeth a gwrthryfelwyr sy’n gwrthwynebu rheolaeth yr Arlywydd Bashar Assad.

Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod wedi “brawychu” gan y trais yn y ddinas a bu Llysgennad Syria yn Llundain, Dr Sami Khiyami, yn cwrdd â swyddogion y Swyddfa Dramor ddoe.

Mae diplomyddion wedi mynnu bod trefniadau yn cael eu gwneud i ddod â chorff Marie Colvin yn ôl o Syria, a bod ffotografydd y Sunday Times Paul Conroy, a gafodd ei anafu yn yr ymosodiad, yn cael triniaeth meddygol.

Mae’r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif bod hyd at 5,400 o bobl wedi cael eu lladd yn ystod y trais yn Syria.