Mae’r Royal Bank of Scotland wedi cyhoeddi colledion o £2 biliwn bore ma o’i gymharu a £1.1 biliwn yn 2010.
Mae’r banc, sydd â chyfran helaeth wedi ei gwladoli, wedi ail-gynnau’r ffrae ynglŷn â thaliadau bonws heddiw wrth iddyn nhw gyhoeddi eu bod yn rhoi £400 miliwn i’w bancwyr, a £785 miliwn i’w gweithwyr.
Er bod y ffigwr 43% yn llai na’r flwyddyn flaenorol, mae’n dilyn cyhoeddiadau yn ystod y flwyddyn bod miloedd o swyddi i ddflannu wrth i RBS ad-drefnu eu hadran fuddsoddi Global Banking and Markets (GBM).
Mae’r banc wedi bod ynghanol ffrae am daliadau bonws yn ystod yr wythnosau dweithaf, gan arwain at benderfyniad y prif weithredwr Stephen Hester i ildio ei fonws gwerth bron i £1m.