Mae Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi galw am gynnal asesiad risg annibynnol o’r bwriad i ad-drefnu gwasanaethau Gwylwyr y Glannau yng Nghymru, fydd yn cynnwys cau gorsaf Abertawe.
Cynhaliodd y Pwyllgor ymchwiliad ar ôl derbyn deiseb ac arni bron i 300 o enwau yn galw am gynnal asesiad risg annibynnol yng Nghymru i’r newidiadau sy’n cael eu hawgrymu gan Lywodraeth y DU i Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau.
Mae’r ad-drefnu yn cynnwys cau gorsaf gwylwyr y glannau Abertawe a throsglwyddo cyfrifoldebau’r orsaf i ganolfannau eraill. Clywodd y Pwyllgor y byddai cau’r orsaf yn arwain at golli gwybodaeth leol arbenigol am arfordir yr ardal.
Nid yw’r pwerau dros Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau wedi’u datganoli ond mae’r Pwyllgor Deisebau o’r farn bod modd i Lywodraeth Cymru gomisiynu ei asesiad risg ei hun, oherwydd goblygiadau’r ad-drefnu i bobl sy’n gweithio yn ardaloedd arfordirol Cymru neu’n ymweld â hwy.
‘Pryder’
Dywedodd William Powell AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau: “Ar ôl ystyried y materion sy’n ymwneud â’r ddeiseb, mae’r Pwyllgor yn bendant fod y mater hwn o bwys mawr i ddefnyddwyr ein glannau a’r rhai sy’n ymweld â hwy.
“Clywodd y Pwyllgor gan nifer o unigolion a sefydliadau sy’n pryderu’n fawr am y newidiadau arfaethedig i Wasanaeth Gwylwyr y Glannau. O gofio pa mor daer yw teimladau pobl am y mater, teimla’r Pwyllgor ei bod yn hollbwysig bod Llywodraeth Cymru’n dal ati i herio penderfyniad Llywodraeth y DU.”
Bydd y Pwyllgor Deisebau’n cyflwyno ei adroddiad yn ffurfiol i ddeisebwyr yn y Mwmbwls, Abertawe ddydd Iau, 23 Chwefror.