Tom Jones
Bydd sengl newydd Tom Jones yn cael ei lansio’n fyd-eang mewn siop fach yng Nghaerdydd.

Siop recordiau Spillers, a ystyrir fel siop recordiau hynaf y byd, fydd lleoliad lansiad byd-eang ‘Evil’, sengl newydd Tom Jones a gynhyrchwyd gan Jack White o’r White Stripes.

Bydd 100 copi yn unig o’r sengl vinyl 7” ar gael am un diwrnod, sef dydd Sadwrn 3 Mawrth, a’r cyntaf i’r felin gaiff falu, medd llefarydd ar ran y siop.

“R’yn ni’n edrych ymlaen at ddiwrnod prysur,” meddai llefarydd Spillers.

Yr wythnos hon fe gyhoeddwyd mai perfformiad Tom Jones a’r Stereophonics o Mama Told Me (Not To Come) a bleidleisiwyd gan y cyhoedd fel hoff ddeuawd y Brit Awards erioed. Perfformiwyd y ddeuawd rhwng y canwr a’r band o Gymru yn seremoni wobrwyo’r Brits yn 2000.