Mae S4C wedi cyhoeddi heddiw y bydd Pennaeth Cynnwys y Sianel, Meirion Davies, yn gadael ei swydd i ddychwelyd i’r sector cynhyrchu annibynnol.
Mae Meirion Davies, sy’n gyfarwydd i lawer o wylwyr S4C fel un o’r Franks ar raglen gomedi Pobol y Chyff yn y 90au, wedi bod yn gweithio i S4C am bron i 20 mlynedd bellach.
Yn ystod y cyfnod hwnnw bu’n gweithio ym maes rhaglenni plant, adloniant a drama.
Mae hefyd wedi bod yn gyfrifol am gomisiynu a golygu rhaglenni Rownd a Rownd, Gogs, Sali Mali, I Dot, Martha, Jac a Sianco, Ar y Tracs, Patagonia a Teulu.
‘Wynebu her y dyfodol’
Mae Meirion Davies yn dweud ei fod nawr yn “edrych ymlaen i adeiladu ar y profiad hwnnw a gweithio yn y sector annibynnol ym maes adloniant a chomedi.”
Wrth gyhoeddi ei ymadawiad â’r sianel heddiw, dywedodd ei fod yn “dymuno’r gorau i S4C wrth iddi wynebu her y dyfodol.”
Wrth ffarwelio â Meirion Davies heddiw, yn ei rôl newydd fel Prif Weithredwr S4C, dywedodd Ian Jones ei fod yn “sicr y bydd ei brofiad a’i angerdd at ddarlledu yn gaffaeliad mawr i’r sector gynhyrchu annibynnol ac i S4C wrth i ni wynebu sialensau’r dyfodol gyda’n gilydd.”
System newydd S4C
Fel pennaeth cynnwys, roedd swydd Meirion Davies ymhlith yr wyth swydd sy’n mynd i gael eu torri dan system gomisiynu newydd S4C a ddatgelwyd ddechrau’r mis.
Dan y drefn newydd, fe fydd pedwar swydd newydd yn cael eu creu ar gyfer Comisiynwyr Cynnwys mewn gwahanol feysydd, gydag un Cyfarwyddwr Cynnwys yn goruchwylio gwaith y pedwar comisiynydd.
Yn ôl Ian Jones, fe fydd y strwythur newydd yn golygu bod y system o ddelio gyda syniadau newydd a chomisiynnu yn gwethio’n gyflymach nag y mae hi dan y drefn bresennol.
Y dyddiad cau ar gyfer ymgeiswyr y swyddi Comisiynnu newydd fydd dydd Gwener yma, 24 Chwefror.