Bu’n rhaid i drefnwyr seremoni wobrwyo’r Brits ymddiheuro wrth y gantores Adele neithiwr ar ôl iddi gael ei gorfodi i roi’r gorau i’w diolchiadau  am y brif wobr oherwydd prinder amser.

Fe lwyddodd Adele i gipio dwy wobr yn y seremoni gan gynnwys yr Artist Benywaidd Orau yn ogystal â’r brif wobr, yr Albym Orau am ei halbym 21 sydd wedi gwerthu mwy na 17 miliwn o gopiau.

Ond oherwydd araith hir a dryslyd gan yr enillydd blaenorol Damon Albarn, ni chafodd Adele fawr o gyfle i ddiolch am y wobr. Fe ddangosodd ei hanfodlonrwydd wrth adael y llwyfan.

Yn ddiweddarach, dywedodd ei bod wedi codi ei bys i ddangos ei rhwystredigaeth at drefnwyr y Brits, ac nid ei ffans.

“Rydw i’n ymddiheuro os ydw i wedi pechu unrhyw un ond roedd y ‘siwtiau’ wedi fy mhechu i,” meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran y Brits a ITV eu bod nhw’n ymddiheuro wrth Adele.

Roedd na wobrau hefyd i Ed Sheeran, Coldplay, One Direction a Rihanna.