Rhodri Williams a Emma Walford
Mae S4C wedi gwadu mai diffyg dychymyg sydd wedi arwain at ail lansio rhai o gyfresi oes aur S4C yn arlwy newydd y sianel o 1 Mawrth ymlaen.

Wrth lansio eu hamserlen ar gyfer rhaglenni’r gwanwyn, mae S4C hefyd wedi gwadu mai cael eu gorfodi i atgyfodi hen raglenni fel ‘Sion a Sian’ a ‘Jacpot’ y maen nhw, oherwydd toriadau yn eu cyllideb.

“Ro’n i’n sylwi ar Twitter bod rhywun wedi nodi wythnos hyn na allen ni fod wedi dod lan â syniadau gwell,” meddai Geraint Rowlands, Cyfarwyddwr Comisiynu Dros Dro y sianel.

“Ond dw i yn credu bod hi yn bwysig iawn i ni beidio anghofio am boblogrwydd y cyfresi yma yn y gorffennol.”

‘Esblygu’r fformat’

Dywedodd fod dod yn ôl â rhai o hen ffefrynnau S4C yn gyfle i “esblygu’r fformat i wneud e yn fwy addas ar gyfer cynulleidfa fodern, hynny yw cynulleidfa heddi a chynulleidfa fory.”

Mae’r arlwy newydd hefyd yn cynnwys rhaglen fydd yn edrych yn ôl ar bigion yr wythnos ar S4C gydag Aled Sam bob nos Sul, o’r enw Sam ar y Sgrîn.

Mae S4C yn dweud y bydd y rhaglen yn “glo ar un wythnos, ac i groesawu’r wythnos nesa’,” gyda chyfle i’r gwylwyr roi eu barn ar arlwy’r wythnos.

“Nid dim ond casgliad o raglenni a chlipiau fydd hwn,” meddai Geraint Rowlands.

“Mae’r dewis Aled Sam yn gyflwynydd yn nodi’n glir ein hawydd ni ac awydd Tinopolis a’r tim cynhyrchu i greu arlwy a rhaglen adloniant. Mae Aled yn gyflwynydd ffraeth. Mae e yn chwim ei feddwl, yn glyfar iawn wrth sgriptio a fydd hon ddim yn rhaglen sych.”

Wynebau newydd

Mae Geraint Rowlands hefyd yn addo y bydd wynebau newydd i’w gweld ar S4C o fis Mawrth ymlaen, ac yn eu plith bydd cyflwynwyr ifanc newydd yn cael cyfle i hogi eu sgiliau.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n datblygu talent newydd. Ond mae yna bryd a lle i ddatblygu’r talent hwnnw,” meddai.

Ond mae’n mynnu nad yw’r cyflwynwyr ifanc yn cael eu cyflwyno ar draul y rhai mwy profiadol – er gwaetha’r ffaith mai Emma Walford a Mari Grug fydd yn cymryd drosodd gan Angharad Mair a Sian Thomas ar hen soffa Wedi 7.

Bydd y ddwy olaf yn dechrau cyflwyno rhaglen gylchgrawn ddyddiol Prynhawn Da am 1pm o fis Mawrth ymlaen ynghyd a Rhodri Ogwen.

Yn ôl y Cyfarwyddwr Comisiynu, mater o “gydbwysedd” yw’r drefn gyflwyno newydd, a bod Angharad Mair ei hun yn awyddus i symud i’r prynhawniau.

“Cadw y cydbwysedd sydd angen,” meddai, wrth sôn am yr amrywiaeth wynebau ac oedrannau fydd gan amserlen newydd S4C, o Elin Fflur i Dai Jones. “Ond dydyn ni yn bendant ddim yn ageist.”

Uchafbwyntiau S4C ar gyfer y Gwanwyn: