Mae cymaint o drasiedïau yn digwydd yn Wcráin ar hyn o bryd. Mae bron yn amhosibl dirnad anobaith cymaint o bobl yno. Rydyn ni yn y Gorllewin cyfforddus yn ofni cael ein llusgo i mewn i’r gyflafan. Rhaid parhau ag ymdrechion diplomyddol i ddod o hyd i ateb. Mae bwgan trychineb niwclear yn hongian drosom ni i gyd.
Roedd y newyddion bod gorsaf niwclear wedi dod dan ymosodiad yn bygwth diogelwch ardaloedd helaeth ymhell bell o’r Wcráin. Yng ngeiriau’r Arlywydd Zelensky: “Gallai’r noson hon fod wedi bod yn ddiwedd hanes Wcrain ac Ewrop.” Ychwanegodd: “Byddai trychineb Gwaith Niwclear Zaporizhzhia chwe gwaith yn waeth na Chernobyl”. Mae’r Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol (IAEA) wedi rhoi ei Chanolfan Digwyddiadau ac Argyfwng ar waith. Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyffredinol, Rafael Mario Grossi: “Mae tanio ergydion yn ymyl gorsaf ynni niwclear yn torri’r egwyddor sylfaenol bod yn rhaid cynnal cyfanrwydd ffisegol cyfleusterau niwclear a’u cadw’n ddiogel bob amser.”
Tra’n sgwennu hyn dywedir bod y Rwsiaid yn nesáu at ail orsaf niwclear. Maent yn barod wedi cymryd drosodd Chernobyl a bu cynnydd ar unwaith mewn lefelau ymbelydredd yno.
Mae’n amlwg bod gorsafoedd niwclear, nid arfau niwclear yn unig, yn fygythiad parhaus i heddwch, gan eu bod yn dargedau amlwg yn wyneb rhyfel neu derfysgaeth. Onid ffolineb gorffwyll yw uchelgais y Deyrnas Gyfunol, gyda Rolls-Royce yn geffyl blaen, i werthu technoleg niwclear dramor? Mae PAWB (Pobl yn Erbyn Wylfa B) a CADNO sy’n gwrthwynebu nukes yn Nhrawsfynydd wedi gwneud y pwynt hwn sawl gwaith – ond yn ofer. Mae Rolls-Royce eisiau adeiladu niwcs yn Wylfa – a Thrawsfynydd. Byddai’r boblogaeth leol yn ysglyfaeth parod mewn tanchwa.
Yn y cyfamser, mewn cyhoeddiad a wnaed ar Fawrth 1af, deallwn fod Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething wedi penodi cyn Brif Swyddog Gweithredu Pŵer Niwclear Horizon, Alan Raymant, yn Brif Weithredwr Cwmni Egino, gyda’r bwriad o ddatblygu niwclear newydd yn Nhrawsfynydd. Rhaid gobeithio y bydd ei record o fethu cyflawni yn Wylfa yn parhau yn Nhrawsfynydd – er ein mwyn ni i gyd!
Hen bryd i bob gwleidydd sy’n cefnogi niwcs roi’r gorau iddi – a chefnogi swyddi da yn yr economi werdd, gynaliadwy. Economi allai weithio o blaid ein pobol ni, yn lle hybu uchelgais corfforaethau am elw, ac uchelgais y Sefydliad Prydeinig i fod yn hogia mawr ar lwyfan y byd niwclear – llwyfan sy’n beryg bywyd.