Bydd Brenhines Elizabeth II yn parhau’n bennaeth y wladwriaeth mewn Alban annibynnol, yn ôl Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan.
Wrth siarad â’r Press Association, mae e wedi wfftio’r awgrym y gallai’r Alban gynnal refferendwm ar ddyfodol y frenhiniaeth pe bai’n mynd yn wlad annibynnol.
Polisi’r SNP cyn y refferendwm annibyniaeth aflwyddiannus yn 2014 oedd y byddai’n cael parhau’n bennaeth yr Alban annibynnol ond ers hynny, fe fu galwadau am refferendwm er mwyn rhoi’r penderfyniad yn nwylo Albanwyr.
Cafodd hyn ei ategu gan Patrick Grady, Aelod Seneddol yr SNP dros Ogledd Glasgow, yn 2020.
“Bydd y Frenhines yn parhau’n bennaeth y wladwriaeth mewn Alban annibynnol,” meddai Ian Blackford, Aelod Seneddol Ross, Skye a Lochaber.
Dug Caerefrog
Mae e hefyd wedi gwrthod dweud a ddylai Andrew, Dug Caerefrog a mab y Frenhines, golli’r teitl ‘Dug Caerefrog’ yn sgil ei frwydr gyfreithiol â Virginia Giuffre.
“Dw i’n credu y bu’n amser heriol i’r Frenhines, on’d do fe?” meddai.
“Dw i ddim eisiau mynd ar ôl mater unigolion o fewn y teulu brenhinol.
“Dw i’n credu bod rhaid i bob un ohonom fod yn gyfrifol am ein hymrwymiadau a’n cyfrifoldebau ein hunain.”