Mae bron i £6.5m wedi cael ei godi dros gyfnod o bedwar diwrnod yn unig ar gyfer Apêl Ddyngarol Wcráin y DEC.

Mae’r swm yn cynnwys y £4m gan Lywodraeth Cymru ar ddiwrnod lansio’r apêl.

Mae £100m wedi’i godi drwy’r Deyrnas Unedig gyfan, sy’n cyfateb i fwy nag £1m yr awr ers dydd Iau (Mawrth 3).

Fe fu’n rhaid i fwy nag 1.5m o bobol ffoi o’r Wcráin o ganlyniad i’r rhyfel erbyn hyn, ac mae llawer mwy wedi gorfod gadael eu cartrefi i symud i rannau eraill o’r wlad.

Menywod a phlant yw’r ffoaduriaid ar y cyfan, wrth iddyn nhw geisio noddfa mewn gwledydd cyfagos ac er bod gan rai berthnasau i fynd i fyw gyda nhw, does gan rai ohonyn nhw neb i droi atyn nhw am gymorth.

Mae’r Cenhedloedd Unedig yn darogan y gallai’r rhyfel orfodi hyd at bedair miliwn o bobol allan o’r wlad, a saith miliwn yn rhagor allan o’u cartrefi o fewn y wlad, ac mae elusennau DEC a’u partneriaid lleol yn y wlad a gwledydd cyfagos yn ymateb i anghenion y bobol sy’n ffoi o’r wlad.

Ar hyn o bryd, mae’r hyn sydd ei angen arnyn nhw’n cynnwys bwyd, dŵr, cymorth meddygol, diogelwch a gofal trawma ac o ganlyniad i’r arian sydd wedi’i godi hyd yn hyn, mae’r gwaith o ddechrau darparu’r nwyddau hanfodol hyn wedi dechrau eisoes.

Gwaith y DEC

Yng Nghymru, mae gwaith y DEC wedi’i gefnogi gan y Groes Goch Brydeinig, Achub y Plant, Oxfam, Tearfund, CAFOD a Chymorth Cristnogol.

“Mae’r don anhygoel o gefnogaeth tuag at bobol sy’n ffoi o’r gwrthdaro wedi golygu ein bod ni wedi gallu dechrau gwario arian yn syth bin a helpu mwy o bobol,” meddai Melanie Simmonds, cadeirydd DEC Cymru.

“Mae Achub y Plant yn gweithio mewn gwledydd sy’n ffinio’r Wcráin i ddarparu cymorth i blant a theuluoedd: megis bwyd, dŵr, citiau hylendid, cymorth seicogymdeithasol, a drwy ddarparu arian parod.

“Wrth i’r gwrthdaro parhau, rydyn ni’n gweld mwy a mwy o bobol yn gorfod ffoi o’u cartrefi i gadw eu hunain yn ddiogel.

“Mae natur sydyn ymadawiad y ffoaduriaid o’r Wcráin wedi golygu bod profiad elusennau DEC yn y rhanbarth a’n gallu sydd gennym i gynyddu graddfa ein gweithrediadau yn gyflym wedi bod yn amhrisiadwy.

“Rydyn ni’n disgwyl i’r niferoedd sy’n croesi’r ffin barhau i gynyddu yn y dyddiau nesaf.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu, gan ein helpu ni i’w cefnogi yn eu moment mwyaf o angen.”

Rhoddi arian

Mae elusennau ar lawr gwlad yn annog pobol i ddangos eu cefnogaeth trwy roddion ariannol yn hytrach na thrwy roi nwyddau sydd, er yn ystyrlon, yn aml ddim yn cyfateb i anghenion pobol ac sy’n ddrud i’w cludo.

Mae’r apêl wedi ymelwa o gefnogaeth gan nifer o actorion ac enwogion.

Mae’r actorion Adrian Lester, Kit Harington, a David Tennant wedi ffilmio neu recordio apeliadau, a chafodd ffilmiau eu creu ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol gan Hugh Bonneville a Simon Pegg.

Mae actorion a dylanwadwyr Cymreig hefyd wedi bod yn awyddus i ddangos eu cefnogaeth i’r apêl ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys y cyflwynydd radio Huw Stephens, yr actor Iwan Rheon, yr actores a chantores Carys Eleri, y gyflwynwraig Mari Lovgreen a chyn-enillydd y gyfres deledu Apprentice ar y BBC, Alana Spencer o Aberystwyth.

Mae’r £25m a gafodd ei roi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i’r apêl drwy gynllun Match Aid yn cynrychioli’r ymrwymiad mwyaf erioed i fatsio rhoddion y cyhoedd, gan sicrhau y gall elusennau sy’n gweithio ar lawr gwlad gyrraedd y rhai sydd mewn angen dybryd.

Sut mae’r elusen yn helpu?

• Mae Age International yn ymateb yn yr Wcráin trwy bartneriaid lleol ac mewn gwledydd cyfagos i gefnogi pobol hŷn. Nod yr elusen yw cyrraedd 400,000 o bobol, gan ddarparu pecynnau bwyd a dŵr brys, citiau meddygol, hylendid ac urddas a chymorth mewn ymateb i drawma y bydd cymaint o bobol hŷn yn ei brofi.

• Mae gwirfoddolwyr y Groes Goch Wcreineg yn darparu cymorth cyntaf, dillad cynnes, a chefnogaeth mewn llochesi a gorsafoedd Metro. Mae Pwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch (ICRC) yn gweithio i adfer cyflenwadau dŵr, darparu cefnogaeth i gyfleusterau meddygol, a darparu bwyd a lloches i’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan yr ymladd. Mewn gwledydd cyfagos, mae’r Groes Goch yn helpu’r rhai sy’n ffoi o’r Wcráin.

• Mae CARE International wedi cydweithio â phartner lleol i ddosbarthu cyflenwadau sydd eu hangen ar frys fel bwyd, dŵr, citiau hylendid ac arian parod i ddiwallu anghenion dyddiol.

• Mae gan CAFOD, trwy ei bartner rhyngwladol Caritas, 19 o ganolfannau ar draws yr Wcráin: maen nhw’n rhedeg ‘canolfannau ar y cyd’ cynnes a diogel gyda gwelyau, bwyd, cyfleusterau ymolchi a mannau diogel i blant; darparu trafnidiaeth, y wybodaeth ddiweddaraf a chymorth seicogymdeithasol. Maen nhw’n trefnu mannau addas lle gall plant wneud chwaraeon a chelf a chrefft fel modd o ymdopi â’u profiadau.

• Mae’r International Rescue Committee yn prysur gynyddu adnoddau ac yn ysgogi partneriaid i gynorthwyo sifiliaid sydd wedi cael eu gorfodi i ffoi o’u cartrefi. Mae’r elusen yn cyfarfod â phartneriaid a sefydliadau cymdeithas sifil leol yng Ngwlad Pwyl ac yn siarad â phartneriaid yn yr Wcráin i ddiwallu’r anghenion dyngarol sy’n codi wrth i wrthdaro gorfodi pobl i ffoi i wledydd cyfagos a thu mewn i’r Wcráin ei hun.

• Mae Achub y Plant yn gweithio mewn gwledydd cyfagos i helpu i ddarparu cymorth uniongyrchol i blant a theuluoedd: bwyd, dŵr, citiau hylendid, cymorth seicogymdeithasol, cymorth ariannol.

• Mae World Vision yn gweithio trwy bartneriaid yn yr Wcrain a gwledydd cyfagos i helpu i ddarparu pecynnau hylendid, amddiffyniad a chefnogaeth seicogymdeithasol i blant a theuluoedd sy’n ffoi, gan gynnwys mannau addas i blant.