Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau £7.7m o gyllid ychwanegol i barhau i gynnal SilverCloud Cymru, adnodd rhad ac am ddim ar y we i gefnogi iechyd meddwl, am dair blynedd arall.
Mae’r arian wedi’i gadarnhau gan Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles yn Llywodraeth Cymru.
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys fydd yn goruchwylio’r gwasanaeth therapi ar-lein rhad ac am ddim sydd wedi’i greu i gefnogi pobol sydd â gorbryder ysgafn neu gymhedrol i reoli eu hiechyd meddwl a’u lles.
Yn dilyn cynllun peilot a gafodd ei gynnal yn ystod y pandemig Covid-19, mae’r gwasanaeth wedi helpu pobol i gael mynediad i gefnogaeth ar gyfer eu hiechyd meddwl ac wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio a sefyllfa’r pandemig wella, bydd yr arian ychwanegol yn ehangu’r gwasanaeth ac yn cynnig mynediad i therapi digidol i bobol ifanc dros 11 oed, ac yn cynnig cefnogaeth cyn ac ar ôl geni plentyn.
Yn ystod y cynllun peilot, cafodd mwy na 23,000 o bobol fynediad i raglenni iechyd meddwl SilverCloud, ac fe wnaeth 64% ohonyn nhw ddatgan canlyniadau boddhaol ar ôl hunangyfeirio.
Yn ogystal â bod yn wasanaeth ar-lein i bobol gael helpu eu hunain, mae SilverCloud Cymru wedi’i gefnogi gan dîm o seicolegwyr a chydlynwyr therapi ymddygiad gwybyddol ar-lein, ac mae’n wasanaeth mae modd cael mynediad iddo o gartref ac yn un sydd wedi’i arwain gan bobol broffesiynol.
‘Ystod o adnoddau i helpu pobol’
“Mae iechyd meddwl yn effeithio ar bobol mewn gwahanol ffyrdd ac rydyn ni eisiau cynnig ystod o adnoddau i helpu pobol,” meddai Lynne Neagle.
“Gall y rhai hynny sydd ag anghenion iechyd meddwl lefel isel elwa’n fawr o ddefnyddio SilverCloud.
“Mae’r gwasanaeth ar gael 24/7 ac nid oes angen atgyfeiriad.
“Mae adborth rydym wedi’i gael wedi dangos bod pobl yn teimlo bod SilverCloud wedi’u helpu’n fawr yn ystod adegau lle’r oeddent angen ychydig o gefnogaeth.
“Rwy’n falch ein bod nawr yn ehangu ar y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig.”
‘Cyfraddau llwyddo uchel’
“Mae SilverCloud Health yn falch o gefnogi Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru i helpu cleifion ledled y wlad i gael gafael ar gefnogaeth iechyd meddwl sydd ei hangen arnynt ar hyn o bryd,” meddai Ken Cahill, Prif Swyddog Gweithredol SilverCloud Health.
“Gan elwa o dros 18 mlynedd o waith ymchwil, mae gan ein rhaglenni, sydd wedi’u cynllunio gan seicolegwyr clinigol, gyfraddau llwyddo uchel sy’n cadarnhau eu heffeithiolrwydd.
“Mae pob person sy’n cael help yn stori llwyddiant yn ein barn ni.”
‘Modd o leihau’r rhwystrau’
“Mae sicrhau bod y boblogaeth gyfan sy’n 11 oed a hŷn yn gallu cael gafael ar therapi digidol yn uniongyrchol yn cydnabod y ffaith bod pobol angen cefnogaeth yn syth i ddelio â’u hiechyd meddwl a’u llesiant wrth i effeithiau Covid-19 barhau i fod yn amlwg,” meddai Carol Brown, arweinydd SilverCloud Cymru, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
“Mae’r gwasanaeth yn fodd o leihau’r rhwystrau i gael gafael ar y gefnogaeth hon.”