Alexis Tsipras (Llun - PA)
Mae disgwyl y bydd Prif Weinidog Groeg, Alexis Tsipras, yn ymddiswyddo heddiw er mwyn cynnal etholiadau brys, yn ôl un o uwch-swyddogion llywodraeth y wlad.

Fe fydd Alexis Tsipras yn gwneud araith ar y teledu nes ymlaen heno ac, yn ôl cyfryngau Gwlad Groeg, y disgwyl yw y bydd yn cyhoeddi etholiad cyffredinol ar 20 Medi.

Mae’r Prif Weinidog wedi colli ei fwyafrif yn y senedd ar ôl i rai o aelodau ei blaid asgell chwith Syriza wrthryfela yn erbyn ei benderfyniad i daro bargen ariannol â sefydliadau rhyngwladol.

Ddydd Iau fe dderbyniodd Groeg ei benthyciad cyntaf o €13bn yn rhan o’r mesurau ariannol i dalu ei dyledion.

Ond mae hynny wedi cythruddo llawer o wleidyddion a phobl y wlad sydd yn anhapus â’r amodau llym a thoriadau sydd ynghlwm â’r cymorth ariannol gan yr Undeb Ewropeaidd a sefydliadau ariannol rhyngwladol.