Mae Heddu West Mercia yn ymchwilio, wedi i benglog gael ei ddarganfod ar ffordd ymadael traffordd yn Swydd Amwythig.

Mewn datganiad, mae’r heddlu’n dweud i weithwyr oedd yn gwneud “arolwg arferol” o’r banc o laswellt ar ymyl yr M54 ger cyffordd 4 Telford, ddod o hyd i’r esgyrn.

Dyw hi ddim yn glir eto pa fath o benglog ydi o, ond mae disgwyl i’r ffordd fod ar gau am weddill y dydd tra mae ymchwiliad ar y gweill.