Iolo Cheung yng Ngwlad Groeg
Dyw’r mis diwethaf heb wneud lles i’r ymgyrch i gadw Prydain o fewn yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl Iolo Cheung
Dydd Llun fe gawson ni gytundeb o’r diwedd yn argyfwng Gwlad Groeg, ar ôl wythnos neu ddwy ble roedd pryderon difrifol y gallai’r wlad adael yr Ewro.
Yr Undeb Ewropeaidd sydd wedi cael ei ffordd ei hun, ar y cyfan, gyda sôn bod Gwlad Groeg yn cael €86bn (£61bn) yn ychwanegol dros y tair blynedd nesaf i geisio delio â’i thrafferthion ariannol.
Ond ymysg yr amodau llym mae Ewrop wedi mynnu mae rhagor o doriadau cyhoeddus, cynnydd mewn treth ar werth a diwygiadau pensiwn, yn ogystal â phreifateiddio gwerth €50bn (£35bn) o asedau.
Mae’n dod ag wythnosau o ffraeo i ben am nawr, ond ffrae sydd wedi amlygu rhwygiadau o fewn yr Undeb Ewropeaidd a chodi cwestiynau dwys am ei dyfodol.
Ac wrth i Brif Weinidog Gwlad Groeg Alexis Tsipras geisio perswadio’i Aelodau Seneddol i dderbyn cynnig newydd yr UE, mae llawer o wleidyddion ac ymgyrchwyr adain chwith ar draws Ewrop wedi cyhuddo Ewrop, a’r Almaen yn benodol, o orfodi rhagor o lymder ar y wlad.
Y sylw o Brydain
Hyd yn hyn mae Prydain wedi cadw hyd braich oddi wrth y trafodaethau gan nad yw hi yn yr Ewro, gyda Ffrainc a’r Almaen yn cymryd yr awenau wrth geisio taro bargen â Gwlad Groeg.
A heddiw fe ddywedodd y Canghellor George Osborne y byddai’n atal unrhyw ymgais i geisio cael Prydain i gyfrannu tuag at y cymorth ariannol diweddaraf sydd wedi’i gynnig i’r Groegwyr.
Ond dyw hynny heb stopio’r argyfwng rhag cael sylw eang ar y cyfryngau yn y wlad yma, gan y buasai ymadawiad Gwlad Groeg o’r Ewro wedi effeithio ar farchnadoedd ar draws y byd.
Mae’r ymateb wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan, felly, i’r ffaith bod llywodraethau’r ddwy ochr wedi dod i gytundeb.
Ond mae ymdrechion yr Undeb Ewropeaidd i wthio Gwlad Groeg i gornel a gorfodi amodau newydd arni os oedd hi eisiau cymorth ariannol hefyd wedi codi pryderon nifer am flaenoriaethau’r sefydliad.
A chyda llywodraeth y Ceidwadwyr yn gobeithio cynnal refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r UE erbyn y flwyddyn nesaf, mae’n bosib y gallai datblygiadau’r mis diwethaf newid deinameg y bleidlais honno.
Beirniadaeth o’r chwith
Mae Ewrop eisoes wedi bod yn gocyn hitio cyson i wleidyddion asgell dde ers sbel, gan gynnwys Nigel Farage a UKIP a sawl un o feinciau’r Ceidwadwyr.
Ond mae’r digwyddiadau diweddar hefyd wedi amlygu carfan o wleidyddion ac ymgyrchwyr o adain chwith y sbectrwm gwleidyddol sydd wedi dangos eu hanfodlonrwydd â’r ffordd mae’r Undeb Ewropeaidd wedi trin Gwlad Groeg.
I fod yn glir, mae’r cymorth ariannol sydd wedi’i gynnig i Wlad Groeg yno i’w helpu nhw i dalu dyledion y mae arnyn nhw i’r banciau a sefydliadau ariannol – felly benthyg arian i’r wlad er mwyn talu’r biliau maen nhw.
Dyw pobl y wlad ddim yn gweld yr arian o gwbl felly, yn ôl yr economegydd Joseph Stiglitz – dim ond y toriadau a llymder ariannol sydd ynghlwm a’r amodau.
Roedd y pwysau ar arweinwyr gwleidyddol Gwlad Groeg yn ystod y trafodaethau eisoes wedi arwain at amheuon fod y troika (y Comisiwn Ewropeaidd, Banc Canolog Ewrop [ECB] a’r Gronfa Ariannol Ryngwladol [IMF]) yn ceisio cael gwared â llywodraeth adain chwith y wlad.
Ac mae cyn-weinidog cyllid Gwlad Groeg Yanis Varoufakis, a ymddiswyddodd cyn i’r ddwy ochr ddod i gytundeb, wedi cyhuddo’r sefydliadau Ewropeaidd o ymddwyn y “tu hwnt i’r gyfraith”.
Erbyn ddoe roedd hashnod #ThisIsACoup yn trendio ar Twitter a bellach wedi cael ei ddefnyddio dros 430,000 o weithiau, gydag ymgyrchwyr adain chwith yn cyhuddo’r Almaen a’r UE o fradychu Gwlad Groeg a cheisio defnyddio’r argyfwng i hawlio rhagor o bŵer.
Effaith ar y refferendwm?
O’r anniddigrwydd sydd wedi bod yn amlwg tuag at Wlad Groeg a’r Undeb Ewropeaidd dros yr wythnosau diwethaf, dyw hi ddim yn anodd gweld pam y gallai’r argyfwng diweddar fod yn hwb i’r rheiny fydd yn ymgyrchu i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2017.
Mae dadleuon yr adain dde wleidyddol wedi cael llwyfan amlwg ers sbel, gyda phryderon ynglŷn â mewnfudwyr o Ewrop yn cymryd swyddi neu fudd-daliadau.
Mae Brwsel hefyd yn cael ei gyhuddo o wastraffu llawer gormod o arian a llyncu miliynau i redeg biwrocratiaeth ddiangen, gyda rhai ym Mhrydain hefyd yn poeni am ansefydlogrwydd yr Ewro ac effaith argyfyngau ariannol arnyn nhw.
Dywedodd Nigel Farage y byddai o’n ymuno â phrotestiadau yn Athen petai’n Roegwr, gan ychwanegu bod y ffrae ddiweddar yn dystiolaeth nad oedd gan wledydd fel Gwlad Groeg sofraniaeth o fewn yr UE.
Ond mae ymgyrchwyr adain chwith hefyd wedi bod yn cynnal protestiadau yn ddiweddar gan godi pryderon fod yr Undeb Ewropeaidd yn poeni am fuddiannau’r banciau a busnesau mawr yn unig, gan falio dim am effaith hynny ar bobl gyffredin mewn gwledydd fel Gwlad Groeg.
Mae’r chwith gwleidyddol eisoes wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn cynlluniau fel y cytundeb masnach rydd rhwng yr UE a’r UDA maen nhw’n dweud allai roi’r gwasanaeth iechyd mewn perygl o gael ei breifateiddio.
Ond yn y polau diwethaf roedd cefnogaeth o blaid aros yn yr UE dal yn weddol uchel, a hyd yn hyn, er gwaethaf yr helynt diweddar, does dim llawer o leisiau amlwg o’r chwith gwleidyddol wedi arddel gadael yr UE.
Mae’n ymddangos, fodd bynnag, fod yr Undeb Ewropeaidd yn amhoblogaidd ymysg pobl ar hyd y sbectrwm gwleidyddol ar hyn o bryd – amser a ddengys a fydd hynny’n dechrau dangos yn y polau piniwn ynglyn a’r y refferendwm dros y misoedd nesaf.