Ceiswyr lloches yn ceisio dringo i mewn i lori yn Calais
Bydd gyrwyr lorïau sy’n teithio o Calais i Brydain yn cael aros mewn “parth diogel” newydd o hyn ymlaen er mwyn ceisio atal ceiswyr lloches rhag cuddio yn eu cerbydau, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May heddiw.
Y gobaith yw y bydd y parth newydd yn stopio lorïau rhag bod yn “darged” i’r rhai sy’n ceisio dod o hyd i ffordd i mewn i’r DU, dywedodd Theresa May.
Mae ffigurau newydd yn dangos bod cwmnïau loriau wedi talu £6.6 miliwn mewn dirwyon am gludo ceiswyr lloches anghyfreithlon y llynedd, cynnydd o £2.4 miliwn ers 2013/14.
Datgelodd Theresa May bod 93% o’r dirwyon wedi cael eu codi ar yrwyr tramor.
Ychwanegodd bod angen i yrwyr loriau o dramor gydymffurfio gyda mesurau diogelwch sy’n cael ei orfodi ar y diwydiant yn y DU.
Mewn datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin, meddai Theresa May y bydd lle i 230 o gerbydau yn y parth diogelwch.