Bethan Gwenllian
Bethan Gwenllian sydd yn holi pwy yn union yw’r blaid newydd hon sydd yn ceisio newid gwleidyddiaeth yn Sbaen
Mae dros chwarter miliwn o bobl yn Sbaen yn aelod o Podemos, plaid newydd Sbaen a agorodd ei aelodaeth i’r cyhoedd dim ond saith mis yn ôl.
Wedi ei sefydlu ym mis Ionawr 2014, mae Podemos yn blaid adain chwith a sefydlwyd gan Pablo Iglesias Turrión.
Fe gafodd y blaid ei gofrestru fel plaid wleidyddol swyddogol ar 11 Mawrth 2014 ac ers diwedd mis Gorffennaf mae mwy nag 275,000 o Sbaenwyr wedi ymaelodi.
Gyda phoblogrwydd sydyn mor annisgwyl, mae’n rhaid gofyn beth ydi Podemos a sut mae’n siapio gwleidyddiaeth Sbaen?
‘Fe allwn ni’
Mae Podemos, enw sy’n golygu ‘fe allwn ni’, â’i wreiddiau ym mhrotestiadau’r indignados yn 2011 oedd yn gofyn am newidiadau i wleidyddiaeth Sbaen.
Ar y pryd Sbaen oedd â’r lefel uchaf o ddiweithdra ymysg pobl dan 25 mlwydd oed o fewn yr Undeb Ewropeaidd.
Roedd y bobl wedi laru ar sefyllfa Sbaen, polisïau llym ei llywodraeth a llygredd ymysg ei gwleidyddion.
Roedd protestiadau Sbaen, yn ogystal â’r rhai ym Mhortiwgal a’r Gwanwyn Arabaidd, yn ysbrydoliaeth i’r mudiad ‘Occupy Wallstreet’.
Ysgogodd hyn ar fudiadau Occupy tebyg o amgylch y byd a oedd yn herio gafael y gyfundrefn gyfalafol gyllidol.
Chwa o awyr iach?
Mae rhai yn ystyried bod Podemos yn chwa o awyr iach drwy wleidyddiaeth Sbaen. Mae canlyniadau’r etholiadau ers 1982 yn dangos tuedd dwybleidiol gydag un ai’r blaid adain dde (PP, “Plaid y Bobl”) neu’r blaid canol-chwith (PSOE, Plaid Sosialaidd Gweithwyr Sbaen) yn cipio grym.
Ond bellach y sôn yw na fydd PP nag PSOE â’r gallu i ennill etholiad cyffredinol 2015 yn llwyr. Yn ôl y polau piniwn, Podemos (llinell biws isod) yw’r blaid fwyaf tebygol o gael ei hethol, gyda mwy o bobl yn meddwl pleidleisio dros Podemos na’r PP (llinell glas) a PSOE (llinell goch).
Polau piniwn Sbaen eleni
Dim ond pedair mis ar ôl cael ei sefydlu, fe safodd Podemos yn etholiadau Ewropeaidd mis Mai 2014. Er bod y blaid yn newydd, fe lwyddodd i ennill pum sedd yn yr etholiadau gyda 1.2 miliwn o bleidleisiau neu 7.98% o’r bleidlais.
Roedd hyn yn ganlyniad annisgwyl gan nad oedd y polau piniwn wedi ei ragweld o gwbl.
Fe newidiodd y blaid y strwythur traddodiadol, hefyd, gan ganiatáu i unrhyw un a oedd am wneud i gael y cyfle i sefyll dros y blaid.
Mae’r blaid yn dweud eu bod yn ceisio rhoi pŵer yn ôl i’r bobl drwy greu sefyllfa wleidyddol lle mae’r gwleidyddion yn rhannu syniadau’r bobl.
Fel enghraifft o hyn mae Podemos wedi cadw cyflogau eu Haelodau Seneddol Ewropeaidd yn isel – dim mwy nag €1,930 y mis, yn lle’r cyflog llawn o €8,000 ymysg y pleidiau eraill.
Mae’r gwahaniaeth yn cael ei ddefnyddio o fewn y blaid, neu yn cael ei roi tuag achosion da.
Newid y cyfansoddiad
Yn eu maniffesto, mae Podemos yn credu y dylid dileu cymal 135 o gyfansoddiad Sbaen.
Cafodd y cymal ei newid gan PP a PSOE yn 2011 er mwyn llacio rheolau ar ail-dalu dyledion y wlad.
Mae’r maniffesto yn addo ail-genedlaetholi’r sector fancio ac yn addo gwrthod unrhyw fath o ymdrechion i breifateiddio gwasanaethau cyhoeddus.
Yn ogystal â hynny mae Podemos yn galw am yr hawl i adael NATO, gwrthod ymyriadau milwrol ac yn eu lle ceisio am berthnasau heddychlon.
Oes yna ddyfodol?
Er bod Podemos efallai yn cael ei weld fel plaid radical, mae hefyd yn blaid sydd yn edrych fel y gall newid dyfodol Sbaen.
Er bod llawer o bobl yn gallu gweld problemau plaid mor ifanc â hyn, mae Pablo Iglesias Turrión yn credu bod Podemos yn ymateb i newid gwleidyddiaeth y wlad.
“Nid yw Sbaen yn brin o bleidiau,” meddai. “Beth sydd ar goll yn Sbaen yw cysylltiad y bobl gyda gwleidyddiaeth, ac rydym ni’n ceisio bod yn offeryn i newid hyn.”
Podemos yw’r ail blaid fwyaf o ran aelodaeth yn Sbaen, a gyda chynnydd mor sydyn yn ei phoblogrwydd efallai mai Podemos fydd y blaid i wyrdroi sefyllfa lom gwleidyddiaeth Sbaen.