Gwaith yng ngorsaf reilffordd King's Cross
Ni fydd prif weithredwr Network Rail Mark Carne yn cymryd bonws eleni ar ôl iddo gyfaddef bod y cwmni wedi “siomi gormod o deithwyr.”
Ond fe rybuddiodd teithwyr, sy’n wynebu cynnydd o 2.5% ym mhrisiau tocynnau ddydd Gwener, na fyddai Network Rail yn gallu gwella’i berfformiad yn gyflym oherwydd “degawdau o ddiffyg buddsoddiad” yn y rheilffyrdd.
Roedd Mark Carne wedi dod dan y lach ar ôl i waith peirianyddol dros y Nadolig arwain at gau gorsafoedd King’s Cross a Paddington yn Llundain ddydd Sadwrn gan arwain at oedi hir i filoedd o deithwyr.
Fe allai Mark Carne fod wedi derbyn bonws o hyd at £135,000 ar gyfer 2014/15 ond dywedodd heddiw na fyddai’n cymryd y tal gan nad oedd perfformiad Network Rail wedi bod yn ddigon da.
Cafodd y cyhoeddiad ei groesawu gan Manuel Cortes, arweinydd undeb y rheilffyrdd TSSA a dywedodd ei fod yn gobeithio y bydd prif weithredwyr eraill Network rail yn dilyn ei esiampl.