Dai Jones Llanilar
Bydd S4C yn dathlu 50 mlynedd ers darllediad cyntaf y rhaglen boblogaidd Sion a Siân sy’n profi gwybodaeth parau priod a chyplau mewn dwy raglen y Nadolig hwn.

Bydd rhaglen ddogfen Sion a Siân: Y Stori yn olrhain hanes y rhaglen yng nghwmni un o’r cyflwynwyr presennol, Heledd Cynwal.

Ceir hanes Dai Jones Llanilar a’i amrywiol bartneriaid cyflwyno, sut mae’r gêm wedi addasu i adlewyrchu newidiadau cymdeithasol, y finales cerddorol cofiadwy a straeon lliwgar am wir sêr y sioe – y cyplau fu’n cystadlu.

Yna ar Nos Galan, Dai Jones, Llanilar a Jenny Ogwen fydd yn cyflwyno Sion a Siân: Y Sioe – rhaglen arbennig a recordiwyd o flaen cynulleidfa ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid.

Cystadleuwyr

Bydd rhai o gystadleuwyr y gorffennol yn ymddangos er mwyn gweld a ydyn nhw’n adnabod ei gilydd cystal â’r tro diwethaf. Ymhlith y cyplau, mae cyn-gapten a hyfforddwr tîm rygbi Cymru Clive Rowlands a’i wraig Margaret, o Gwmtwrch a ymddangosodd yn wreiddiol yn y gyfres gyntaf ym 1964. Bydd y cyplau yn cystadlu am y jacpot o £1000, gyda’r arian yn mynd at elusen o’u dewis.

“Rwy’n credu taw symlrwydd fformat y rhaglen sydd wedi gwneud Sion a Siân yn rhaglen lwyddiannus dros y blynyddoedd”, meddai Dai Jones a gyflwynodd y rhaglen o 1971 i 1988 ac sydd hefyd yn cyflwyno Cefn Gwlad.

“‘Slawer dydd, fyddai pobl ddim yn mynd mas tan fod Sion a Siân wedi bod! Bydda i hefyd yn canu ar ddiwedd y rhaglen newydd fel o’n i arfer gwneud. Canais ryw 700 o ganeuon erbyn i mi adael y gyfres.”

‘Cymeriadau’

Bu Jenny Ogwen yn cyd-gyflwyno’r rhaglen â Dai Jones. Meddai, “Dechreuais i gyflwyno ym 1964 pan roedd teledu’n dal yn ddu a gwyn. Rhaglen deithiol oedd hi ar y pryd oedd yn cydredeg â’r fersiwn Saesneg ‘Mr and Mrs’, ac fe deithion ni ar hyd a lled Cymru.

“Rwy’n cofio llawer iawn o gymeriadau. Yr un sy’n aros yn y cof i fi oedd y wraig 60 oed yma. Pan ofynnais iddi ‘Oes plant gyda chi?’, yr ateb oedd ‘Dim ‘to!’ Weithiau roedd y cyplau yn cwympo mas ar ôl cael y cwestiynau’n anghywir ac yn colli’r jacpot.

“Roedd hi’n braf cael ffilmio o flaen y gynulleidfa ym Mhontrhydfendigaid – mae pobl yn dal i garu’r rhaglen.”

Sion a Siân: Y Stori – Nos Fawrth, 30 Rhagfyr 7.05, S4C
Sion a Siân: Y Sioe – Nos Galan 7.00, S4C