Bethan Gwenllian
Bethan Gwenllian sydd yn bwrw golwg dros oblygiadau dychweliad y cyn-arlywydd ar wleidyddiaeth Ffrainc …
Ar ddydd Sadwrn 29 Tachwedd fe gafodd Nicolas Sarkozy, cyn-arlywydd Ffrainc, ei ethol fel arweinydd plaid aden dde Ffrainc, yr UMP (Union pour un Mouvement Populaire).
Mae’r canlyniad yn cael ei weld fel rhywbeth pwysig ym maes gwleidyddol Ffrainc gan fod Sarkozy heb lwyddo i gael ei ail-ethol fel arlywydd Ffrainc yn etholiadau arlywyddol 2012, gan golli i’r ymgeisydd sosialaidd François Hollande.
Cefnogaeth yn pylu?
Fe enillodd Sarkozy yr etholiad wythnos ddiwethaf gyda 65% o’r bleidlais, ffigwr isel o’i gymharu â’r 85% a enillodd pan safodd yn 2004.
Yn ail ar ôl Sarkozy oedd Bruno Le Maire, ymgeisydd a gafodd 29% o’r bleidlais, ffigwr gweddol isel ond ffigwr sy’n codi ofn ar dîm ymgyrchu Sarkozy.
Cyn yr etholiad, nid oedd Le Marie yn cael ei weld fel gwir gystadleuwr ond mae’r canlyniadau yn dangos bod Sarkozy wedi colli mwy o gefnogaeth nag yr oedd wedi’i ddisgwyl.
Maer Bordeaux
Mae’r golled mewn cefnogaeth yn rhywbeth all greu nifer o broblemau iddo. Er ei fod wedi’i ailethol fel arweinydd y blaid, nid yw’n credu mai e fydd yr unig aelod o’i blaid fydd yn ymgeisio i fod yn Arlywydd yn yr etholiadau nesaf yn 2017.
Mae maer Bordeaux, Alain Juppé, yn cael ei weld fel ymgeisydd addawol i’r etholiadau er na ymgeisiodd ar gyfer arweinyddiaeth yr UMP.
Fe gafodd Juppé ei ddewis fel y gwleidydd fwyaf poblogaidd yn Ffrainc, ac mae 43% o bleidleiswyr adain dde Ffrainc yn credu ei fod yn “ddymunol” o’i gymharu â’r 18% oedd yn gweld yr un nodwedd yn Sarkozy.
Ond mi all bob dim newid cyn cychwyn yr ymgyrchoedd yn 2016.
Hollande mewn trafferth
Rhywbeth arall all newid dynamig gwleidyddol Ffrainc yw ei bod hi’n debyg na fydd Hollande, yr arlywydd ers 2012, yn cael ei ailethol yn 2017.
Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad arolwg ar gychwyn mis Tachwedd a awgrymodd mai Hollande yw’r arlywydd mwyaf amhoblogaidd ers cyn yr Ail Ryfel Byd, gyda dim ond 13% o boblogaeth Ffrainc yn ei gefnogi.
Mae’n debyg bod diffyg hyder yn arweiniad Hollande yn ganlyniad i sefyllfa diweithdra Ffrainc, rhywbeth y gwnaeth Hollande addo ei wella petai’n cael ei ethol.
Ym mis Medi, fe ddangosodd y ffigyrau bod 3.4miliwn o bobl yn ddi-waith, ffigwr sydd wedi codi ers i Hollande gael ei ethol yn 2012, pan oedd y ffigwr yn 2.9miliwn.
Yn ogystal â hyn, mewn cyfweliad fis diwethaf fe awgrymodd Hollande na fuasai’n sefyll am ail etholiad yn 2017 os na fydd yn llwyddo i reoli’r sefyllfa ddiweithdra.
Bygythiad y Front National
Ers 1981, mae system wleidyddol Ffrainc yn system ddwybleidiol, gydag un ai’r blaid adain dde (UMP) yn cael ei ethol, neu’r blaid adain chwith (PS, y blaid sosialaidd).
Er hyn, mae’r blaid adain dde eithafol, Y Front National, yn cipio pleidleisiau’r ddwy blaid draddodiadol.
Gyda pholisïau gwrth-fewnfudwyr a gwrth-Ewropeaidd, mae’r Front National yn cynnig dewis arall, mwy radicalaidd i bleidleiswyr sydd bellach wedi laru gyda thuedd ddwybleidiol y weriniaeth bresennol.
Y gwleidydd sy’n bygwth y system ydi Marie Le Pen, arweinydd y Front National. Ers yr etholiad yn 2012 mae cefnogaeth Le Pen wedi cynyddu’n raddol.
Yn 2013 fe awgrymwyd bod gan Le Pen fwy o gefnogaeth nag Hollande, ond llai na Sarkozy. Yn dilyn hyn, fe enillodd y blaid dde eithafol 24 sedd yn Senedd Ewrop yn yr etholiadau yn 2014.
Fe ddaeth y canlyniad fel sioc fawr i Ffrainc ac i Ewrop ac mae’n rhoi neges glir i wleidyddion Ffrainc – mae’r system wleidyddol yn prysur newid ac mae’n rhaid addasu.
Felly, mae’n debyg y bydd ail hanner tymor pum mlynedd Hollande yn gweld newid gwleidyddol yn Ffrainc, boed hyn yn addasiad i ofynion y boblogaeth neu’n fwy o sgandalau.
Erbyn yr etholiad yn 2017 fe gawn weld a gaiff y ddeuoliaeth dde-chwith ei thorri, neu os fydd yr hen system yn gallu goroesi.
Mae Bethan Gwenllïan yn astudio Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd a Sciences-Po Bordeaux yn Ffrainc.