George Osborne
Mae’r Canghellor George Osborne wedi dechrau cyhoeddi Datganiad yr Hydref, ei ddatganiad ariannol olaf cyn yr etholiad cyffredinol.

Alun Rhys Chivers sy’n dilyn y datblygiadau ar ran Golwg360:

13.24 – Balls yn dweud bod argyfwng i bobol sydd mewn gwaith llawn amser oherwydd diffyg cynnydd mewn cyflogau yn gyffredinol

13.23 – Gwrthwynebydd Osborne, Ed Balls wedi dechrau ymateb i’r datganiad

13.20 – Osborne yn dweud bod yr adferiad economaidd yn parhau yn sgil y datganiad heddiw

13.18 – Bydd y dreth stamp yn cael ei diwygio ar gyfer perchnogion tai, medd Osborne. Dim treth ar y £125,000 cyntaf a’r ganran yn codi yn ddibynnol ar bris tai. 98% o bobol i dalu llai o dreth o dan y drefn newydd sy’n dod i rym heno

13.17 – Trothwy i bobol ar y cyflogau uchaf yn codi i fwy na £42,000 – y codiad cyntaf ers mwy na phum mlynedd

13.16 – 3 miliwn o bobol ar waelod y raddfa gyflog yn cael eu tynnu allan o’r system drethi trwy’r cynlluniau sydd wedi’u cyhoeddi

13.15 – Mwy o gefnogaeth i fusnesau sy’n derbyn prentisiaid o dan 25 oed

13.14 – Bydd partneriaid unigolion sy’n marw yn cael etifeddu cyfrifon cynilon yn ddi-dreth o’r flwyddyn nesaf ymlaen

13.13 – Diddymu’r dreth ar drosglwyddo pensiynau i bartner wedi marwolaeth

13.12 – Osborne yn dweud bod datganoli materion Lloegr i ASau Lloegr yn unig “yn anochel”

13.11 – Rhagor o bwerau i Gymru erbyn mis Mawrth nesaf – wedi dod i gytundeb heddiw ar gyfraddau busnes

13.10 – Cyhoeddi bwriad i ufuddhau i’r cytundeb ar ddatganoli yng ngwledydd Prydain

13.09 – Buddsoddiad o £250,000 mewn ymchwil yng ngogledd Lloegr

13.08 – Cyhoeddi buddsoddiadau gwyddoniaeth yng ngogledd Lloegr – gobaith o adeiladu “pwerdy’r Gogledd”, sy’n cynnwys gwella trafnidiaeth

13.07 – Benthyciadau myfyrwyr ol-radd o £10,000 ar gael o hyn ymlaen

13.06 – Busnesau mewn ardaloedd sy’n dioddef yn sgil llifogydd i dderbyn mwy o gefnogaeth i dalu trethi

13.05 – Treth ar deithiau awyr i blant dan 12 oed yn cael ei dileu

13.04 – Osborne yn cyhoeddi y bydd treth ar danwydd yn parhau i gael ei rewi

13.03 – Mwy o gymorth ar gael hefyd i fusnesau’r stryd fawr

13.02 – Mwy o gymorth ar gael i fusnesau bychain a chanolig i dalu cyfraddau busnes

13.01 – Mwy o arian ar gael i fusnesau bach er mwyn gwella’r sector is-adeiledd

13.00 – Angen i bobol gyfoethog gyfrannu i leihau’r diffyg, medd Osborne

13.00 – Treth ar dai gwerth mwy na £2 miliwn i godi’n sylweddol

12.59 – Bydd y Llywodraeth yn gorfodi busnesau mawr i dalu mwy o drethi

12.58 – Arian o Libor yn cael ei wario ar sicrhau mwy o hofrenyddion achub

12.57 – Ni fydd rhaid i bobol sy’n helpu’r gwaith dyngarol yng ngorllewin Affrica i atal Ebola dalu trethi am gyfnod penodol

12.56 – £2 miliwn yn llai yn cael ei wario yn Afghanistan wedi i filwyr ddod adref

12.55 – Llai o arian yn cael ei roi i Ewrop gan Lywodraeth Prydain erbyn, medd Osborne

12.55 – Credyd unffurf yn cael ei rewi, a dim rhagor o fudd-daliadau i fewnfudwyr heb obaith o ddod o hyd i waith

12.54 – Diwygio pensiynau’n debygol o arbed £1.3 biliwn

12.54 – Bydd mwy o arian ar gael hefyd i gynorthwyo gofalwyr iechyd

12.53 – Bydd arian sy’n cael ei gasglu o ddirwyon banciau’n mynd i atgyfnerthu gwasanaethau meddygon teulu

12.52 – £2 biliwn yn cael ei fuddsoddi yn y Gwasanaeth Iechyd oherwydd tan-wariant

12.51 – Osborne yn dweud bod cyrraedd targedau erbyn 2017 yn bosib

12.49 – Bwriad i gyhoeddi Siartr yr wythnos nesaf i drafod y cam nesaf yn y broses o wneud toriadau ariannol

12.48 – Dydy derbynebau treth ddim wedi codi cymaint ag yr oedd disgwyl iddyn nhw wneud, medd Osborne. Ond y Llywodraeth yn arbed trwy ostwng diweithdra ac addasu eu cynlluniau i wneud toriadau

12.47 – Disgwyl i GDP ostwng yn raddol bob blwyddyn tan 2017

12.46 – Y diffyg wedi haneru, medd Osborne unwaith eto

12.45 – Y Llefarydd John Bercow yn gofyn am dawelwch wrth i’r datganiad barhau

12.43 – Llywodraeth Prydain wedi benthyg llai na’r disgwyl, medd Osborne

12.40 – 1,000 o swyddi wedi’u creu am bob diwrnod y bu’r Llywodraeth hon mewn grym

12.38 – Gweithgynhyrchu wedi tyfu mwy nag unrhyw sector arall

12.37 – Osborne yn cyhoeddi £45 miliwn o fuddsoddiad ar gyfer allforio

12.35 – Osborne yn dweud nad yw’n fodlon codi trethi, a’i fod yn barod i gefnogi pobol sy’n barod i weithio.

12.34 – Ond y diffyg yn rhy uchel o hyd, medd Osborne. “Dim llacio” ar yr ymrwymiad i leihau’r diffyg.

12.33 – Osborne yn dweud bod mwy o dwf, llai o ddiweithdra a’r diffyg wedi’i haneru. Y cynllun economaidd “yn llwyddo”.