Sgerbwd Richard III
Mae darganfyddiad geneteg am gorff y brenin Richard III wedi codi cwestiynau ynglŷn ag etifeddiaeth y teulu brenhinol presennol.

Cafodd sgerbwd ei ddarganfod wedi’i gladdu o dan faes parcio yng Nghaerlŷr yn 2012, a bellach mae gwyddonwyr 99.999% yn sicr mai corff Richard, a fu farw ym mrwydr Bosworth yn 1485, yw hwnnw.

Ond wrth edrych yn fanylach mae’n ymddangos fod plentyn siawns wedi cael ei eni rhywbryd yn hanes y teulu, gan godi cwestiynau dros olyniaeth y frenhines Elisabeth II a’r teulu brenhinol presennol.

Dirgel hanesyddol

Ar ôl cymharu DNA corff Richard III a dau berthynas o ochr fenywaidd ei deulu, roedd modd cadarnhau mai sgerbwd y brenin gafodd ei ddarganfod.

Ond ar ôl edrych ar linell wrywol DNA Richard III mae gwyddonwyr wedi darganfod ei fod wedi’i dorri rhywle mewn hanes, a bod plentyn siawns wedi’i eni heb yn wybod i’r teulu.

Doedd DNA pump o bobl sydd yn fyw heddiw ac yn honni eu bod yn perthyn i Richard III drwy un o’u cyndeidiau – Henry Somerset, 5ed Dug Beaufort – ddim yn cyfateb.

Petai’r plentyn siawns wedi cael ei eni yn fwy diweddar yn y llinach deuluol, fyddai hynny ddim o unrhyw bwysigrwydd i’r teulu brenhinol.

Ond os oedd y plentyn siawns yn dyddio nôl i’r 15fed Ganrif i gyfnod John o Gaunt a’i fab John Beaufort, fe fyddai hynny’n effeithio ar linach y Tuduriaid a llawer mwy o frenhinoedd.

Cafodd y canfyddiadau eu cyhoeddi yn y cyfnodolyn Nature Communications.

Mae’r teulu brenhinol presennol yn gallu dilyn eu llinach yr holl ffordd yn ôl i deulu’r Tuduriaid.

Rhyfel y Rhosod

Mae unrhyw un a astudiodd hanes y Tuduriaid yn yr ysgol yn debygol o gofio Rhyfel y Rhosod, pan fu teuluoedd y Tuduriaid a’r Iorciaid yn ymladd am y goron.

Cafodd Richard III ei ladd yn Bosworth gan Harri Tudur, y Cymro aeth ymlaen i gael ei goroni yn Harri’r Seithfed.

Roedd y ddau ohonyn nhw’n perthyn – hen daid Harri’r Seithfed oedd John o Gaunt, sef brawd hen daid Richard III, Edmwnd Dug Efrog.

Mae honiadau hanesyddol yn bodoli sydd yn awgrymu bod John o Gaunt yn blentyn siawns i’r brenin Edward III.

Ac yn ôl yr Athro Schurer o Brifysgol Caerlŷr, dyma ble y gallai llinell wrywol y teulu brenhinol fod wedi ei thorri.

“John o Gaunt oedd tad Harri IV, felly os nad oedd John o Gaunt wir yn fab i Edward III, wedyn doedd gan Harri IV ddim hawl teilwng i’r goron, ac felly doedd gan Harri V, Harri VI ac yna’r Tuduriaid ddim chwaith,” meddai’r Athro Schurer.

Fe bwysleisiodd yr academydd fodd bynnag bod hanes y teulu brenhinol yn Lloegr a Phrydain wedi newid cyfeiriad sawl tro, gyda sawl un yn defnyddio grym milwrol i gipio’r goron.

Roedd hynny’n golygu, meddai, nad oedd y darganfyddiad posib hwn yn effeithio ar hawl presennol y frenhines Elisabeth II i’r goron.