e-sigaret
Mae plant mor ifanc a 10 oed yng Nghymru yn arbrofi gydag e-sigaréts, yn ôl astudiaeth ymchwil a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw.

Roedd 6% o’r plant 10-11 oed gafodd eu holi wedi defnyddio e-sigarét a 2% wedi ysmygu sigarét tybaco. Roedd y plant sydd a rhieni sy’n ysmygu yn fwy tebygol o ddefnyddio e-sigaréts.

Un o’r canfyddiadau eraill oedd nad oedd y mwyafrif helaeth o blant a ddywedodd eu bod wedi defnyddio e-sigarét erioed wedi ysmygu sigarét tybaco.

Mae’r astudiaeth ddiweddaraf o gysylltiad plant â mwg tybaco (CHETS Cymru 2) yn asesu’r newidiadau i gysylltiad plant ag ysmygu mewn ceir ac yn y cartref ers i’r astudiaeth wreiddiol gael ei chynnal yn 2007 a 2008.

Mae gan Lywodraeth Cymru fwriad i wahardd e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus dan do, oherwydd pryderon y gallai danseilio’r gwaharddiad presennol ar ysmygu.

Normaleiddio ysmygu

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Drakeford ei fod y pryderu bod e-sigarets am normaleiddio ysmygu unwaith eto:

“Rwy’n poeni y gall y defnydd o e-sigaréts weithredu fel porth ar gyfer ysmygu a’i wneud yn rhywbeth normal eto, yn enwedig i genhedlaeth sydd wedi cael eu magu mewn cymdeithas sy’n ddi-fwg i raddau helaeth.

“Nid ni’n unig sy’n pryderu am hyn – mae Sefydliad Iechyd y Byd a chyrff rhyngwladol eraill wedi galw am fwy o reoleiddio e-sigaréts, gan gynnwys cyfyngu ar eu defnydd mewn mannau cyhoeddus caeedig a gwaharddiad ar eu gwerthu i blant a phobl ifanc.”

Canfyddiadau

Prif ganfyddiadau’r astudiaeth oedd:
• Mae’r defnydd o e-sigaréts yn cynrychioli dull newydd o arbrofi â nicotine mewn plentyndod – mae mwy a mwy o blant 10 ac 11 oed yn dweud iddyn nhw roi cynnig ar e-sigaréts yn hytrach na sigaréts tybaco;
• Mae’r defnydd o e-sigaréts yn fwy cyffredin ymysg plant y mae eu rhieni’n ysmygu. Roedd 8% yn dweud eu bod wedi defnyddio e-sigarét, o’i gymharu â 3% o’r plant nad yw eu rhieni’n ysmygu;
• Dywedodd 14% efallai y byddent yn dechrau ysmygu o fewn y ddwy flynedd nesaf.
• Er bod rhai plant wedi dweud y byddant yn ysmygu o fewn dwy flynedd, roedd plant a oedd wedi defnyddio e-sigarét yn llai tebygol o ddweud na fydden nhw’n yn bendant yn ysmygu, ac yn fwy tebygol o ddweud y byddent o bosib yn ysmygu.