Baner IS
Mae Iran wedi cynnal ymosodiadau o’r awyr ar safleoedd milwriaethwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn nwyrain Irac, meddai’r Pentagon.
Dywedodd llefarydd ar ran y Pentagon eu bod yn credu mai dyma’r tro cyntaf i Tehran gynnal ymosodiadau o’r awyr ar dargedau yn Irac.
Nid yw’r Unol Daleithiau wedi cyd-weithio gydag Iran ynglŷn â chynnal cyrchoedd awyr, meddai.
Mae arweinwyr milwrol Iran wedi cydnabod bod dwsinau o’u lluoedd wedi bod yn brwydro ochr yn ochr â milwyr Cwrdaidd yn Irac yn erbyn yr eithafwyr.
Nid yw’r UD wedi gwahodd Iran i fod yn rhan o’r glymblaid sy’n brwydro IS ac mae Iran wedi dweud na fyddai’n ymuno beth bynnag.