Michael Adebolajo
Mae Michael Adebolajo, un o’r ddau eithafwr Islamaidd wnaeth lofruddio’r milwr Lee Rigby yn Woolwich, wedi colli ei gais i apelio yn erbyn ei ddedfryd.
Cafodd Michael Adebolajo, 29, ei ddedfrydu i garchar am oes heb obaith am barôl ym mis Chwefror eleni, ynghyd a Michael Adebowale, 22, a gafodd ei ddedfrydu i isafswm o 45 mlynedd o dan glo.
Mae Adebowale hefyd wedi methu yn ei ymdrech i apelio yn erbyn hyd ei ddedfryd.
Roedd y ddau wedi taro’r milwr gyda’u car cyn ymosod arno gyda chyllyll ger barics Woolwich yn ne ddwyrain Llundain ar 22 Mai’r llynedd.
Roedd Michael Adebolajo yn gobeithio herio ei ddedfryd a’i gwtogi, ond fe gafodd y cais ei wrthod gan yr Arglwydd Ustus Thomas yn y Llys Apêl yn Llundain heddiw.
Daeth i’r amlwg ar ôl y llofruddiaeth bod y gwasanaethau diogelwch a chudd-wybodaeth yn ymwybodol o Adebolajo ac Adebowale cyn y digwyddiad ond mae cwestiynau’n parhau ynglŷn â allen nhw fod wedi cael eu monitro’n fwy gofalus.
.