Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi apêl ar ran ditectifs yn Swydd Henffordd sy’n ymchwilio i ladrad arfog mewn gorsaf betrol.
Digwyddodd y lladrad am tua 10:00 yh 7 Hydref wrth i staff yng ngwasanaethau ochr ffordd yn Symonds Yat baratoi i gloi’r drysau. Daeth dau ddyn oedd yn gwisgo mygydau ac yn cario gynnau atyn nhw gan fynnu eu bod yn cael arian.
Fe wnaeth y ddau ddyn ddianc mewn car glas 4×4 Mitsubishi Pajero.
Bydd yr apêl hefyd yn cael ei darlledu ar raglen Crimewatch, pan fydd y cyflwynwyr yn gofyn i’r cyhoedd am unrhyw wybodaeth all arwain at arestio’r dynion.
Dywedodd y Ditectif Cwnstabl Philippa Conway: “Mae’r math yma o drosedd yn brin iawn yn Swydd Henffordd ond rydym angen cymorth gan y cyhoedd er mwyn dod o hyd i ddrwgweithredwyr.
“Roedd yn lladrad ffiaidd ac yn brofiad dychrynllyd iawn i’r staff.”
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â’r heddlu ar 101.