Zoe Sugg
Mae nofel blogwraig YouTube wedi gwerthu’n gynt nag unrhyw lyfr cyntaf gan awdur erioed.

Fe werthodd Girl Online, gan y seren flogio Zoella, dros 78,000 o gopïau yn yr wythnos gyntaf.

Mae hynny’n nifer fwy na nofel gyntaf unrhyw awdur ers i gofnodion ddechrau gael eu cadw yn 1998, gan gynnwys awduron fel JK Rowling a Dan Brown.

Blog YouTube

Yn wreiddiol o Wiltshire, fe ddaeth Zoe Sugg yn enwog ar ôl i’w sianel YouTube o dan yr enw Zoella, a ddechreuodd yn 2009, fynd yn boblogaidd iawn ar y we.

Roedd Zoella yn rhoi cyngor ar ffasiwn a harddwch yn y fideos, ac mae ganddi bellach dros chwe miliwn o danysgrifwyr i’w sianel.

Mae gan y flogwraig 24 oed hefyd dros 2.5miliwn o ddilynwyr ar Twitter, ac fe gafodd ei gwahodd i ganu ar y sengl Band Aid diweddaraf gan Bob Geldof.

Mae’r nofel Girl Online yn adrodd stori blogiwr yn ei harddegau a’i pherthynas â chanwr o America, ac mae Zoella eisoes wedi arwyddo cytundeb i gyhoeddi ail lyfr y flwyddyn nesaf.