Elton John
Daeth cadarnhad y bore ma y bydd Elton John yn perfformio am y tro cyntaf yng ngogledd Cymru mewn gig ym Mae Colwyn y flwyddyn nesaf.
Mi fydd y canwr a’r cyfansoddwr, sydd wedi gwerthu dros 300 miliwn o recordiau, yn ymddangos yn Stadiwm Eirias dydd Sadwrn 6 Mehefin 2015, fel rhan o’i daith Ewropeaidd.
Dywedodd Cyngor Conwy y bydd ei berfformiad yn cynnwys ei ganeuon mwyaf enwog o’r pum degawd diwethaf, gan gynnwys caneuon o’i albwm Goodbye Yellow Brick Road – gafodd ei ryddhau 40 mlynedd yn ôl.
Yn ymuno ag o ar y llwyfan fydd Nigel Olsson ar y drymiau, Davey Johnstone ar y gitâr, Matt Bissonette ar y bâs, John Mahon ar offerynnau taro, a Kim Bullard ar yr allweddellau.
“Mae fy mand a minnau yn edrych ymlaen at ddod â’r sioe i Fae Colwyn. Hon fydd fy sioe gyntaf yng Ngogledd Cymru,” meddai Elton John mewn datganiad.
“Rwy’n cael fy syfrdanu bob amser gyda’r derbyniad dw i’n ei gael yng Nghymru, fyth ers fy sioe gyntaf yno ym mis Mehefin 1976 ac rwy’n sicr y bydd hon yr un mor gofiadwy.”
Brwdfrydedd
Ychwanegodd y Cynghorydd Graham Rees bod Bae Colwyn yn ysu am gael croesawu “artist rhyngwladol o’r safon uchaf”:
“Mae Elton yn artist rhyngwladol o’r safon uchaf ac rydym yn falch iawn i’w groesawu ef a’i fand i Ogledd Cymru.
“Mae Stadiwm Eirias yn lleoliad allweddol ar gyfer digwyddiadau mawr yn y rhanbarth ac rydym yn gwybod y bydd llawer o frwdfrydedd a chyffro gan bobol o bob oed ar gyfer y cyngerdd hwn.”
Roedd Tom Jones wedi perfformio yn Stadiwm Eirias dros yr haf.
Fe fydd tocynnau yn mynd ar werth i’r cyhoedd ddydd Gwener, 5 Rhagfyr am 09:00.