Y Tri Tenor
Mae aelod newydd wedi ymuno a’r triawd operatig Tri Tenor Cymru, sy’n cael ei ddisgrifio fel “ffermwr sy’n canu”.

Fe wnaeth Aled Wyn Davies, neu Aled Pentremawr, ymddangos am y tro cyntaf gyda dau aelod arall y triawd, Rhys Meirion ac Aled Hall, ar raglen Heno neithiwr.

Mae’n cymryd lle Alun Rhys-Jenkins sydd wedi gadael er mwyn canolbwyntio ar ei waith yn y byd opera.

“Mi wnaethon ni ganu am y tro cyntaf neithiwr a dw i’n meddwl y gwneith o ffitio i mewn yn hollol naturiol,” meddai Rhys Meirion am yr aelod newydd.

“Ond fyddwn ni ddim yn cael gwneud dim byd o gwmpas mis Mawrth neu fis Ebrill, achos mi fydd o’n wyna. Ffermwr sy’n canu ydi o yn hytrach na chanwr sy’n ffermio!

“Mae o’n dipyn o gymeriad. Hogyn cefn gwlad – yn debyg iawn i fi ag Aled – felly mi ydan ni o’r un anian.”

Lansiad

Mae Aled Wyn Davies yn byw yn Llanbrynmair ym Mhowys ac fe wnaeth gychwyn ei yrfa fel canwr gwerin. Ond ar ôl ennill y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 2006 dechreuodd dorri ei gŵys ei hun fel tenor.

“Gobeithio y byddwn ni’n lansio fel y Tri Tenor newydd ym mis Chwefror ac mi rydan ni’n gobeithio gwneud sengl yn fuan yn y flwyddyn newydd,” ychwanegodd Rhys Meirion.

Bydd cyngerdd i nodi’r lansiad ar 8 Mawrth ym Mhorthmadog.

Dyma berfformiad cyntaf y Tri Tenor ar raglen Heno: