Sais gan Alun Cob
Mae’r gair ‘Sais’ yn un sydd yn codi syniadau negyddol ym meddwl y Cymry yn amlach na pheidio, yn ôl awdur sydd newydd gyhoeddi nofel o dan y teitl hwnnw.

Nofel o fewn nofel yw llyfr newydd Alun Cob, Sais, ble mae’r awdur yn y llyfr yn ysgrifennu am rywun yn lladd Saeson cyn gweld yr union beth hynny’n dod yn wir.

“Mae be mae o’n edrych fel a be ydi o go iawn yn ddau beth gwahanol,” esboniodd yr awdur wrth golwg360 wrth drafod teitl y nofel.

“Y gwir ydi fod y gair ‘Sais’ bron yn ‘loaded’ yn y wlad yma, mae ’na ryw syniadau negyddol yn dod i feddwl Cymry Cymraeg am y gair yna.

“Cymro, Sais, Gwyddel, yr un peth ydi o, ond mae ‘na jyst rhyw bŵer yn perthyn i’r gair Sais, rhyw connotations negyddol.”

Dychan

Mae Alun Cob yn gymeriad o fewn ei nofel ei hun, ac ef sydd yn mynd ati i ysgrifennu am y Saeson yn cael eu lladd cyn gweld hynny’n digwydd go iawn yn y nofel.

Ond cyn i chi feddwl bod y llyfr, a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer, yn datgelu rhyw chwant cudd gan yr awdur i fynd ar laddfa, dychanu’r gair ‘Sais’ yw’r bwriad yn ôl Alun Cob.

“Os ddarllenwch chi’r llyfr mi welwch chi fod o ddim mor syml â hynny – ‘sa chi’n meddwl fod o’n llyfr gwrth-seisnig neu senoffobig ond dydi o ddim o gwbl, i’r gwrthwyneb o hynna,” esboniodd Alun Cob
.
“Mae o’n fwy o ddychan ar y gair, a connotations y gair yn y wlad yma, mae o’n fwy seicolegol na stori am rywun yn mynd o gwmpas yn lladd Saeson.”

Tro yn y gynffon

Fel pob awdur da, wrth gwrs, dydi Alun Cob methu dweud llawer rhagor am gynnwys y nofel – fe fydd yn rhaid ei darllen er mwyn deall beth yn union sydd yn digwydd i’r Saeson.

“Mae o mor gymhleth mae o’n amhosib siarad amdano, oherwydd bod ‘na dro yn y cynffon, felly os ‘da chi’n siarad amdano fo i gyd hyd at y diwedd mae’n datgelu gormod,” esboniodd Alun Cob.

“Mae’n bwysig bod pobl yn rhoi amser i’r llyfr – mae o’n adloniant, ond dydi o ddim yn syml!”